Newyddion

27 Ionawr, 2020

Mae ein tîm wedi tyfu! Dyma’r aelodau newydd o’n tîm!

Tua diwedd 2019, tyfodd Technoleg Iechyd Cymru, a chroesawyd nifer o recriwtiaid newydd.

Mae’n golygu bod gennym 20 aelod o staff erbyn hyn, gyda 17 o Weithwyr Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE), ac mae wedi cynyddu capasiti mewn meysydd allweddol o’n gwaith i wella ansawdd y gofal yng Nghymru.

Ymunodd Alice Evans fel Swyddog Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd.  Mae Alice yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth i gleifion, sefydliadau cleifion, gofalwyr ac aelodau o’r cyhoedd. Cyn ymuno â ni, cynlluniodd Alice gwricwlwm o hyfforddiant sgiliau ar gyfer cleientiaid pediatrig Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd Cymru Gyfan mewn partneriaeth â chleifion a theuluoedd. Ar ôl hynny, bu Alice yn gweithio ym maes gofal iechyd parhaus (CHC) yn ne a dwyrain Cymru i ddatblygu hyfforddiant i wella’r ddealltwriaeth o ofal parhaus a dementia ar draws De Cymru mewn partneriaeth â rhwydweithiau cartrefi gofal a’r GIG.

Mae ein gwaith ymchwil wedi tyfu yn sgil recriwtio pedwar Ymchwilydd i’r Gwasanaethau Iechyd. Byddant yn cefnogi ein gwaith o ddarparu dull cenedlaethol o nodi, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau yng Nghymru.

Cyn ymuno â Technoleg Iechyd Cymru, bu Kim Cann yn gweithio fel Epidemiolegydd ac yna, fel ymchwilydd i’r Ganolfan Genedlaethol Cydweithredu Canser, cyn cael hyfforddiant ym maes Iechyd y Cyhoedd. Mae Kim yn gweithio’n rhan-amser hefyd mewn Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol, lle mae hi’n arwain ar ddatblygu math newydd o asesiad o anghenion iechyd. Mae hi’n angerddol dros leihau anghydraddoldebau o ran mynediad i iechyd a gofal, ac yn annog gofal iechyd seiliedig ar werthoedd – ac ar gael y canlyniadau gorau i gleifion gyda’r adnoddau sydd gennym. Mae ei chymwysterau’n cynnwys MSc mewn Gwyddorau Iechyd a Gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus.

Ymunodd Bridget-Ann Kenny â Technoleg Iechyd Cymru ar secondiad o Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) ym mis Tachwedd 2019. Mae hi’n gweithio ar draws y ddau sefydliad, yn cefnogi mynediad i gleifion at dechnolegau iechyd a meddyginiaethau. Mae gan Bridget-Ann brofiad blaenorol yn y byd academaidd, ac mae ganddi gymwysterau mewn Bioleg Celloedd (PhD) o Goleg Prifysgol Llundain, mewn Meddygaeth Foleciwlaidd (MSc), ac mewn Niwrowyddoniaeth (BA) – y ddau o Goleg y Drindod Dulyn.

Ar ôl cwblhau gradd BSc mewn Biocemeg ac MPhil mewn Bioleg Foleciwlaidd, astudiodd Adrian Mironas radd PhD mewn Diagnosis Clinigol a Rheoli Clefydau mewn cydweithrediad â’r GIG a diwydiant. Yn y gorffennol, mae wedi gweithio fel ymchwilydd, cydlynydd logisteg treialon clinigol ac mewn gwyddorau gwaed yn y GIG. Drwy ei rôl gyda Technoleg Iechyd Cymru, mae Adrian yn angerddol dros hybu arloesedd, ac mae’n cefnogi datblygu ein Swyddogaeth Archwilio Mabwysiadu

Cyn dechrau yn ei swydd gyda Technoleg Iechyd Cymru, bu Jessica Williams yn gweithio fel Ysgrifennydd Meddygol yng Nghanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan, yn cefnogi’r gwaith o asesu technolegau iechyd meddyginiaethau a chanfod meddyginiaethau newydd. Mae’r profiad hwn wedi arwain at rôl Jessica yn ein proses sganio’r gorwel. Mae gan Jessica Radd Meistr mewn Gwyddorau Naturiol, a phrofiad blaenorol ym maes ymchwil clinigol.

Mae ein system weinyddu wedi cael ei datblygu hefyd, drwy recriwtio Tracey Saunders, sydd â chefndir fel Ysgrifennyddes Feddygol.  Mae gan Tracey 27 mlynedd o brofiad o weithio yn y GIG.

I gael rhagor o wybodaeth am holl aelodau o’n tîm, ewch i dudalen proffil tîm HTW.