Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol
Mae arloeswyr Technoleg Iechyd yn gallu gwella eu cynlluniau a’u llwybr i’r farchnad gyda chymorth Technoleg Iechyd Cymru (HTW), y sefydliad annibynnol a chenedlaethol, sydd wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i arfarnu technolegau nad ydynt yn feddyginiaeth yng Nghymru.
Mae Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW yn wasanaeth ymgynghorol arbenigol, sy’n cynorthwyo arloeswyr yng Nghymru i ddatblygu tystiolaeth a dangos gwerth sy’n ateb anghenion comisiynwyr gofal, darparwyr gofal, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau.
.
Mae hyn yn addas ar gyfer ystod o dechnolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau, fel dyfeisiau meddygol, diagnosteg neu weithdrefnau. Mae’n gallu nodi bylchau mewn tystiolaeth, helpu i dargedu gweithgareddau cynhyrchu tystiolaeth, arbed amser ac adnoddau, a chefnogi arloeswyr i gyflwyno cynnyrch i’r farchnad.
Mae’n rhaid talu ffi ar gyfer Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW, ac mae’n cael ei gynnig ar gyfraddau cystadleuol iawn, mewn ymdrech i wella iechyd pobl yng Nghymru. Mae’r gwasanaeth ar gael ar gyfer arloeswyr o bob maint; o unigolion a chwmnïau newydd, i adrannau ymchwil, SMEs a chwmnïau rhyngwladol mawr.
Mae datblygwyr technoleg a chwmnïau sy’n datblygu therapiwteg a diagnosteg sy’n gysylltiedig â COVID-19, yn gallu cael cyngor gwyddonol am ddim gan HTW.
Bydd yr wybodaeth a gyflwynir ar y ffurflen hon yn cael ei chadw gan Technoleg Iechyd Cymru, yn unol â pholisïau Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
- Cliciwch yma i ddarllen siart llif y broses
- Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen.
Diweddaraf
Hyd 2020
Beth ydy gwerth cynnwys arbenigedd ymchwil yn y gwaith o ddatblygu technolegau iechyd?
I gyd-fynd â lansio Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW, fe ofynnom gwestiwn pwysig i unigolion dylanwadol yn ecosystem technoleg iechyd Cymru.
Technoleg Iechyd Cymru yn cyhoeddi Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol newydd ar gyfer arloeswyr ym maes technoleg iechyd – HTW SAS
Rydym wedi lansio Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol HTW newydd, sef gwasanaeth ymgynghorol i gefnogi arloeswyr ym maes technoleg iechyd yng Nghymru Mae'n cynorthwyo arloeswyr i ddatblygu tystiolaeth a dangos gwerth sy'n ateb anghenion comisiynwyr gofal, darparwyr gofal, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau.
Medi 2020
Astudiaeth achos: Peilotio’r offeryn META gydag Rescape Innovation
Fel rhan o gynllun peilot Gwasanaeth Cyngor Gwyddonol Technoleg Iechyd Cymru, cynhaliwyd ymgynghoriad gennym gyda chwmni a ofynnodd am asesiad, sef Rescape Innovation.