Mae Fforwm Rhanddeiliaid Technoleg Iechyd Cymru yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o sectorau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Fe’i sefydlwyd i sicrhau bod HTW yn deall barn rhanddeiliaid ac yn eu galluogi i ddylanwadu ar ei waith o ran nodi, gwerthuso a mabwysiadu technolegau gofal a allai wella bywydau cleifion yng Nghymru. Yn ogystal â chefnogi rhaglen waith HTW, bydd y fforwm yn darparu canllawiau ar flaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau gofal yng Nghymru.

Sarah McCarty
Cadeirydd y Grŵp Fforwm Rhanddeiliaid
Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru

Cath Doman
Cyfarwyddwr Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Partneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig Caerdydd a'r Fro

Debbie Jones
Dirprwy Bennaeth Sicrhau Ansawdd ac Arweinydd Effeithiolrwydd Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Llyr-ap-rhisiat
Ynys Môn Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS)

Ruth Lewis
Uwch Ddarlithydd, Canolfan Gogledd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol (NWCPCR), Prifysgol Bangor
I ddysgu mwy am bwrpas y grŵp, edrychwch ar Gylch Gorchwyl Grŵp Fforwm Rhanddeiliaid Technoleg Iechyd Cymru.