Cymryd rhan

Cyfarfodydd Cyhoeddus

Mae’r Panel Arfarnu yn cyfarfod hyd at chwe gwaith y flwyddyn, ac mae cyfarfodydd ar agor i’r cyhoedd. Mae angen cofrestru ymlaen llaw i fynychu’r cyfarfodydd hyn. Oni nodir yn wahanol, mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol. Darllenwch ein taflen ffeithiau cyfarfodydd am ragor o wybodaeth.

I gael gwybod mwy ac i gofrestru, cliciwch yma.

Cofrestru fel arbenigwr

Mae mewnbwn gan arbenigwyr yn rhan bwysig o’n proses arfarnu. Os hoffech gofrestru fel arbenigwr a chael rhagor o wybodaeth am sut i  gymryd rhan mewn adolygiad arbenigol.

Cyfleoedd am swyddi

Yma yn Technoleg Iechyd Cymru, mae ein gwaith yn cael ei gwblhau gan dîm amlddisgyblaethol o glinigwyr, ymchwilwyr gwasanaethau iechyd, economegwyr iechyd, arbenigwyr gwybodaeth, rheolwyr prosiect a staff sy’n darparu cymorth cyfathrebu a gweinyddol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n tîm, gwiriwch y dudalen hon ar gyfer ein swyddi gwag diweddaraf.

Arolwg adborth

Mae HTW yn croesawu eich adborth, ac rydym yn ei ddefnyddio i ysgogi gwelliannau ac i asesu effaith ein gwaith.

Gallwch ein helpu trwy gwblhau ein Harolwg Adborth.

Arolwg