Mae’r Grŵp Llywio yn gosod cyfeiriad strategol Technoleg Iechyd Cymru. Mae’r grŵp yn sicrhau ein bod ni’n cyflawni yn ôl ein cylch gwaith, ein bod ni’n ‘addas i’r diben’, a bod gan ein canllawiau berthnasedd cenedlaethol i iechyd a’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r aelodau presennol wedi’u rhestru isod.

Cardiolegydd Ymyraethol Ymgynghorol, Cadeirydd y Grŵp Llywio
Yr Athro Peter Groves
Mae Peter yn Gardiolegydd Ymyraethol Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori Arbenigol Dyfeisiau MHRA a Phwyllgor Cynghori ar Dechnolegau Meddygol NICE, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn rheoleiddio ac mewn asesu technoleg iechyd o ran dyfeisiau meddygol arloesol yng nghyd-destun GIG y DU. Mae Peter wedi ymrwymo i addysgu ac ymchwil, ac mae wedi cyhoeddi'n eang ar y sail wyddonol ar gyfer datblygu a defnyddio technoleg feddygol.

Steve Ham
Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Bywgraffiad >
Dr Susan Myles
Cyfarwyddwr, Technoleg Iechyd Cymru
Bywgraffiad >Mae’r Grŵp Llywio yn cynnwys uwch-gynrychiolwyr o Technoleg Iechyd Cymru, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. I ddysgu mwy am bwrpas y grŵp, ewch i dudalen Cylch Gorchwyl Grŵp Llywio Technoleg Iechyd Cymru.