Hygyrchedd
Defnyddio’r wefan hon
Cynhelir y wefan hon gan Technoleg Iechyd Cymru. Rydym eisiau i gymaint â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Golyga hyn y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi ceisio gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall, ac wedi cynnwys crynodebau mewn iaith glir ar gyfer ein pynciau.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw rhai tudalennau a dogfennau sy’n atodedig wedi’u hysgrifennu’n glir
- mae cyferbynnedd lliw gwael i rywfaint o’r testun
- nid yw’r tudalennu Cymraeg wedi’u priodoli fel rhai Cymraeg
- nid oes gan y botwm dewis iaith y briodoledd iaith gywir
- mae peth o’n testun a ddolennir yn wahanol i’r testun arferol drwy ei liw yn unig
- nid yw rhai elfennau pennawd yn gyson
- mae rhai ffurflenni’n defnyddio maes CAPTCHA sydd efallai ddim yn gwbl hygyrch
- mae labeli rhai ffurflenni ar goll neu ddim yn unigryw
- nid yw rhai botymau wedi’u nodi’n gywir neu eu nodi’n unigryw
- nid yw peth testun dolen yn disgrifio pwrpas y ddolen
- mae llawer o ddogfennau mewn fformat PDF ac ni ellir eu cyrchu
- mae can fideos gapsiynau yn cyd-fynd â nhw, ond nid oes ganddynt ddisgrifiadau sain na thrawsgrifiadau
- ni allwch neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
- ni ellir gweld rhai tablau’n glir pan fo’r dudalen wedi’i chwyddo’n fwy na 125%
- nid oes gan rai tablau benynnau rhes
Beth i’w wneud os na allwch gyrchu rhannau o’r wefan hon
E-bostiwch info@healthtechnology.wales os oes angen y wybodaeth am y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille. Rhowch wybod i ni y fformat sydd ei angen arnoch. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol dywedwch wrthym beth ydyw.
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu’n ôl â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan
Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch unrhyw broblemau nad sydd wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn teimlo nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: info@healthtechnology.wales. Gallwch hefyd gysylltu â ni dros y ffôn, drwy’r post neu gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn fodlon gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1, oherwydd yr elfennau nad sy’n cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Amlinellir y cynnwys sydd ddim yn hygyrch isod ynghyd â manylion:
- sut mae’n methu’r meini prawf llwyddiant
- dyddiadau erbyn pryd y bwriedir datrys y materion
Nid oes gan rai delweddau destun amgen da. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 A 1.1.1 (Cynnwys nad yw’n Destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Mae rhai labeli ffurflenni ar goll neu ddim yn unigryw. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 A 1.1.1 (Cynnwys nad yw’n Destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Nid yw rhai botymau wedi’u nodi’n gywir neu nid ydynt wedi’u nodi’n unigryw. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 A 1.1.1 (Cynnwys nad yw’n Destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Nid yw rhai fframiau neu i-fframiau â theitlau priodol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 A 1.1.1 (Cynnwys nad yw’n Destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Nid yw defnydd CAPTCHA yn cynnwys dewis amgen hygyrch. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 A 1.1.1 (Cynnwys nad yw’n Destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Nid oes gan ein fideos drawsgrifiadau neu ddisgrifiad sain, lle bo cynnwys gweledol nad sydd wedi’i gyflwyno yn y sain. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 A 1.2.3 (Disgrifiad Sain neu Ddewis Cyfrwng Arall [recordio ymlaen llaw]). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Mae rhai elfennau pennawd yn anghyson. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 A 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Nid oes gan rai tablau mewn cynnwys benynnau rhes tabl pan fo’u hangen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 A 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthynas). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Nid oes gan feysydd mewnbynnu ar ffurflenni briodwedd mewnbwn briodol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 AA 1.3.5 (Diben Mewnbynnu Pwy Ydych). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Nid yw rhai dolenni wedi’u gosod i lefel cyferbynnedd 3:1 a chânt eu gwahaniaethau oddi wrth destun arferol gan liw yn unig. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.1 A (Defnyddio Lliw). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Nid yw peth testun wedi’i osod i lefel cyferbynnedd 4.5:1. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.3 AA (Cyferbynnedd [Lleiafswm]). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Mae’r ddewislen lefel uchaf (ffurf ‘hambyrger’), iaith botwm a botwm chwilio cyffredinol yn gorgyffwrdd pan fo’r dudalen wedi’i chwyddo i 250% a mwy. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.10 AA (Ail-lifo). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Weithiau nid oes gan ddolenni â ffocws ddigon o gyferbynnedd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.11 AA (Cyferbynnedd Nad yw’n Destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Nid oes gan dudalennau elfen neidio i’r prif gynnwys. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.1 A (Cyferbynnedd Nad yw’n Destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Nid yw testun dolen wedi’i gyfuno â dolen y gall rhaglen ei phennu yn nodi pwrpas y ddolen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.4 A (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Nid yw iaith ddiofyn tudalennau Cymraeg wedi’i nodi gan ddefnyddio gwybodaeth y gall rhaglen ei phennu. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 3.1.1 A (Iaith y Dudalen). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Nid oes gan y botwm dewis iaith Cymraeg/Saesneg briodoledd iaith. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 3.1.2 AA (Iaith Rhannau). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Nodwyd gwallau dosrannu. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 4.1.1 A (Dosrannu). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Mawrth 2021.
Unwaith y bydd y problemau hyn wedi’u datrys, bydd gwefan HTW yn cael archwiliad allanol manwl i wirio ei gweithrediad a’i hygyrchedd. Byddwn yn gweithio gyda’n datblygwyr i fonitro’n barhaus hygyrchedd ein gwefan yn ystod unrhyw ddiweddariadau a datblygiadau yn y dyfodol.
Problemau gyda dogfennau PDF a dogfennau eraill
Nid yw nifer o’n dogfennau PDF a Word hyn yn bodloni safonau hygyrchedd. Er enghraifft, efallai na fyddant wedi’u marcio fel hygyrch i ddarllenwyr sgrin.
Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hollbwysig ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Rydym yn bwriadu naill ai trwsio’r rhain neu eu disodli â thudalennau HTML hygyrch erbyn mis Mai 2021.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarpariaeth ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Os byddwch angen gwybodaeth sydd yn unrhyw un o’r mathau hyn o ddogfennau, cysylltwch â ni a gofynnwch am fformat amgen.
Sut y gwnaethom brofi’r wefan hon
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 27 Awst 2020. Gwnaethom gynnal gwiriad sylfaenol mewnol i brofi hygyrchedd yn erbyn y canllawiau WCAG 2.1.
Gwnaethom brofi ein prif blatfform gwefan, sydd ar gael yn www.healthtechnology.wales. Gwnaethom brofi holl dudalennau craidd ein gwefan sy’n cynnwys y templedi a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin.
Bwriadwn ddatrys y materion a nodwyd yn y prawf hwn erbyn mis Mawrth 2021. Unwaith bod hyn wedi’i wneud bydd y wefan yn cael prawf allanol manwl i wirio ei gweithrediad a’i hygyrchedd. Byddwn yn gweithio gyda’n datblygwyr i fonitro’n barhaus hygyrchedd ein gwefan yn ystod unrhyw ddiweddariadau a datblygiadau yn y dyfodol.
Paratowyd y datganiad hwn ar 23 Medi 2020. Fe’i diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Medi 2020.