Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24.
Yn ystod 2023-24, fe wnaethom ystyried 66 o atgyfeiriadau pwnc newydd a chyhoeddi 11 o ddogfennau canllaw newydd HTW, yn ogystal â 30 o Adroddiadau Archwilio Pwnc.
Roedd ein canllawiau cenedlaethol yn trafod pynciau oedd yn amrywio o lensys cyffwrdd ar gyfer rheoli myopia i ddiffibrilwyr cardiaidd y gellir eu gwisgo. Roedd hefyd yn cynnwys dau ddarn o ganllaw gofal cymdeithasol oedd yn trafod Rhaglenni Dwys i Gadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd, ac Ymyriadau drwy Adborth Fideo.