Newyddion

23 Ionawr, 2023

< BACK

Adolygiad pum mlynedd ar gynnydd yn tynnu sylw at y rhagolygon ar gyfer datblygu yn y dyfodol

Mae Technoleg Iechyd Cymru yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cyhoeddi ei adroddiad adolygu pum mlynedd sy’n tynnu sylw at ei gynnydd cryf a’i rhagolygon ardderchog ar gyfer datblygu yn y dyfodol.

Comisiynodd y sefydliad ymgynghorydd technoleg iechyd annibynnol i lunio’r adroddiad, sydd yn dilyn ymlaen o’r adolygiad tair blynedd a gynhaliwyd yn 2020, yn seiliedig ar argymhellion yr adroddiad Mynediad at Dechnolegau Meddygol yng Nghymru 2014.

Ar y cyfan, mae’r adroddiad yn dangos bod HTW wedi gwneud cynnydd da, ac mae’n aelod dibynadwy o’r dirwedd arloesi yng Nghymru, sydd yn cael ei werthfawrogi’n fawr.

Yn ystod y broses adolygu a gynhaliwyd ym mis Hydref a mis Tachwedd 2022, arsylwodd yr ymgynghorydd â staff a grwpiau gwneud penderfyniadau HTW allweddol, ac archwiliodd wybodaeth ddogfennol a gynhyrchwyd gan HTW.

Nod yr adolygiad oedd archwilio ei gynnydd ar awgrymiadau ar wella a gafodd eu gwneud yn yr adolygiad tair blynedd ac mewn perthynas â chyflawni’r amcanion a nodwyd yng Nghynllun Strategol HTW 2021-2025. 

Roedd meysydd eraill i gael eu hadolygu yn cynnwys: ansawdd ei swyddogaeth arfarnu, ei gyfraniadau i’r ymateb i COVID-19 yng Nghymru,  cyfraniadau allweddol y gall HTW eu cynnig i Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru sydd ar ddod yng Nghymru; a chapasiti a gallu HTW o ran staffio ac arwain. 

Mae prif ganfyddiadau’r adolygiad pum mlynedd yn cynnwys y canlynol:

  • Mae HTW yn gryf ac yn amlwg yn cyflawni ei swyddogaethau craidd, ac wedi gwneud cynnydd da mewn perthynas â’r awgrymiadau o ran gwella yn yr adolygiad 3 blynedd
  • Mae HTW yn aelod dibynadwy a gwerthfawr o’r dirwedd arloesi yng Nghymru, ac mae ei gynllun strategol yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer datblygu yn y dyfodol.
  • Mae’r datblygiadau nodedig ers 2020 yn cynnwys cyfrannu’n sylweddol tuag at yr ymateb i COVID-19 yng Nghymru, datblygu cynllun strategol cryf, a chwblhau archwiliad mabwysiadu peilot a gwaith arloesol ar gloriannu technolegau gofal cymdeithasol.
  • Mae rhanddeiliaid sy’n gweithio gyda HTW yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi ei arbenigedd wrth adnabod, gwerthuso a mabwysiadu technolegau iechyd, ac yn gweld HTW fel sefydliad sydd yn cael ei lywodraethu’n dda.

Meddai Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru: “Rwy’n falch iawn o’r cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan Dechnoleg Iechyd Cymru, ac yn llawn cyffro am y rôl y byddwn ni’n ei chwarae wrth gyflawni nodau’r Strategaeth Arloesi sydd ar ddod i Gymru.

“Mae ein perthynas â sefydliadau partner yn allweddol i lwyddiant ein gwaith, ac rwy’n arbennig o falch o ddarllen bod ein rhanddeiliaid yn ymddiried yn ein harbenigedd mewn asesu technolegau iechyd, ac yn eu gwerthfawrogi.

“Byddwn yn parhau i wella ein prosesau a monitro effaith ein gwaith, i sicrhau ein bod yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gefnogi iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.”

Gellir darllen copi llawn o’r adroddiad yma.