Adroddiadau a Chanllawiau
Rydym yn cyhoeddi tri math gwahanol o adroddiad:
Adroddiad Archwilio Pwnc (TER) – Mae TER yn cael ei gyhoeddi ar ôl i’r chwiliad cychwynnol am dystiolaeth ar bwnc gael ei gynnal. Mae’r chwiliad hwn ond yn digwydd ar gyfer pynciau sy’n briodol i gael eu harfarnu gan HTW. Mae’r TER yn cael ei gyflwyno i Grŵp Asesu HTW, sy’n penderfynu p’un a ddylid derbyn y pwnc ar raglen waith HTW neu beidio.
Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth (EAR) – Unwaith y bydd pwnc wedi’i dderbyn ar raglen waith HTW, mae ymchwilwyr HTW yn cwblhau adolygiad cyflym o’r dystiolaeth sydd ar gael ar y pwnc, yn asesu’r dystiolaeth ac yn drafftio YAG. Caiff hyn ei adolygu gan y cyfeiriwr pwnc, arbenigwyr annibynnol a Grŵp Asesu HTW cyn ei gwblhau.
Canllawiau (GUI) – Mae canllawiau’n cael eu cynhyrchu ynghylch p’un a ddylid argymell mabwysiadu technoleg yng Nghymru gan Banel Arfarnu HTW, sy’n arfarnu’r dystiolaeth sydd ar gael yn y ddogfen EAR. Mae’r canllawiau yn crynhoi’r dystiolaeth allweddol, ac unrhyw oblygiadau ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Dogfennau Adolygu Arbenigol – Fel rhan o’n proses arfarnu, rydym yn gwahodd arbenigwyr ar bwnc penodol i gymryd rhan mewn adolygiad arbenigol o’n Hadroddiad Arfarnu Tystiolaeth drafft (EAR) ar y pwnc hwnnw. Rydym yn gofyn i adolygwyr roi sylwadau, naill ai ar faterion/pethau ansicr penodol y mae angen help ar ein tîm ymchwil i’w hegluro, neu ar gynnwys cyffredinol yr adroddiad. Mae dogfennau adolygu arbenigol ar gael i’w gweld yn yr adran dogfennau ychwanegol ar ein tudalennau pwnc.
Awst 2024
Systemau selio pibellau deubegwn electrolawfeddygol datblygedig yn ystod hysterectomi
Awst 2024
Asesiad digidol Gwerthusiad Gwybyddol Craidd Iechyd Linus Health
Awst 2024
Realiti rhithwir fel ymyrraeth seicolegol
Awst 2024
Therapi llafar clywedol
Awst 2024
Adsefydlu perineol a phelfig
Awst 2024
Technoleg gronynnau microfandyllau (Amicapsil)
Awst 2024
Datrysiad Deontics Cancer MDT
Awst 2024
Systemau microhidlo gwaed awtologaidd
Awst 2024
Offer a gynorthwyir gan ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer diagnosio canser y prostad yn defnyddio delweddau biopsi ar sleidiau.
Gorffennaf 2024