Astudiaeth achos: Adroddiadau COVID-19 HTW
Beth wnaethom ni?
Ers i achosion o’r clefyd coronafeirws (COVID-19) ddechrau cael eu cadarnhau yn y Deyrnas Unedig, mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi bod yn llunio adroddiadau cyflym ar y dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ar gyfer diagnosteg a therapiwteg.
Mae ein hymchwilwyr wedi defnyddio eu sgiliau asesu technoleg iechyd (HTA) i ddefnyddio a chynhyrchu nifer o Adroddiadau Archwilio Pwnc sy’n ymwneud â COVID-19 – ac rydym yn galw’r rhain yn Adroddiadau Archwilio Pwnc (TER). Mae’r adroddiadau hyn wedi cael eu cynllunio i ddarparu brîff lefel uchel ar bynciau newydd a gyflwynir i’w hystyried.
Gyda pwy?
Rydym wedi adnabod pynciau technoleg sy’n gysylltiedig â COVID-19 drwy ddefnyddio HealthTech Connect, sef adnodd ar-lein diogel sydd yn cael ei ddarparu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Mae cwmnïau’n cofrestru eu technoleg iechyd, ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i weld a yw’n addas i’w werthuso. Mae’r wybodaeth yn cael ei chynnwys yn ein Hadroddiadau Archwilio Pwnc, ac yn cael ei defnyddio i helpu gwneuthurwyr penderfyniadau mewn systemau gofal i ystyried a fyddai gwaith synthesis tystiolaeth bellach yn ddefnyddiol i lywio penderfyniadau o ran mabwysiadu technolegau.
Drwy ddefnyddio HealthTech Connect, rydym wedi darganfod technolegau cysylltiedig â COVID-19 gan ddau gwmni; LINC Medical a ResAppDX-EU.
Pa wahaniaeth wnaeth hyn?
Mae Jafron cytokine adsorber LINC Medical yn cael ei ddefnyddio i drin storm cytokine mewn pobl sydd â haint coronafeirws difrifol.
Mae Ap ffon clyar ResAppDx-EU yn cael eu defnyddio i ddiagnosio clefyd anadlol acíwt.
Chwiliodd yr Adroddiadau Archwilio Pwnc am dystiolaeth ar effeithiolrwydd clinigol a chosteffeithiolrwydd technolegau. Y prif amcanion oedd:
- Penderfynu ar faint ac ansawdd y dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer y dechnoleg o ddiddordeb.
- Nodi unrhyw fylchau yn y dystiolaeth hyd yma a’r dystiolaeth sydd i’w chasglu yn y dyfodol.
- Llywio penderfyniadau ar bynciau sy’n haeddu asesiad llawnach.
Mae’r wybodaeth am y technolegau hyn wedi cael ei rhannu â rhanddeiliaid allweddol yn Llywodraeth Cymru a GIG Cymru i lywio eu penderfyniadau yn ystod COVID-19. Mae’r allbynnau hyn yn cael eu rhannu’n rheolaidd gyda rhanddeiliaid eraill yn y DU hefyd drwy HealthTech Connect, a chyda chyrff HTA yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, drwy’r Rhwydwaith Rhyngwladol Asiantaethau ar gyfer Asesu Technoleg Iechyd (INAHTA). Mae rhannu gwybodaeth ac arbenigedd yn y ffordd hon yn helpu i osgoi dyblygu a gwneud y mwyaf o’r ymateb ymchwil byd-eang i COVID-19.
Mwy:
Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos hefyd gyda Llywodraeth Cymru, a ofynnodd am grynodeb cyflym ar Hospify. Mae crynodebau cyflym yn debyg i Adroddiadau Archwilio Pynciau, ond eto’n wahanol; y prif wahaniaeth yw nad ydynt yn cael eu cefnogi gan chwiliadau llenyddol cynhwysfawr, oherwydd bod angen eu cyflwyno’n gyflym.
Mae Hospify yn ap negeseuo clinigol sy’n cydymffurfio â’r GDPR, sydd wedi’i gynllunio i’w ddefnyddio i staff gyfathrebu gyda’i gilydd a chyda cleifion. Rhoddodd y crynodeb cyflym a ddarparwyd gennym drosolwg cytbwys o’r sylfaen dystiolaeth, gan ateb cwestiwn am y defnydd o Hospify mewn senarios clinigol yn gysylltiedig â COVID-19.
Ewch i’n tudalen we bwrpasol ar COVID-19. Mae’r dudalen hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth newydd am sut rydym yn gweithio, a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig.