Astudiaeth achos: Therapi plasma ymadfer
Beth wnaethom ni?
Rhan o rôl Technoleg Iechyd Cymru ydy caniatáu i bobl wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Mae hyn wedi bod yn bwysig yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).
Mae plasma ymadfer gan bobl sydd wedi gwella o COVID-19 yn cynnwys gwrthgyrff yn erbyn SARS-CoV-2. Gallai rhoi’r plasma adfer hwn i rywun sydd â haint SARS-CoV-2 roi imiwnedd goddefol i chi.
Fe wnaethom lunio Adroddiad Archwilio Pwnc (TER) ar therapi plasma ymadfer ar gyfer pobl sydd â COVID-19, a oedd yn ceisio asesu lefel bresennol y dystiolaeth a thynnu sylw at gynhyrchu tystiolaeth barhaus.
Fe wnaethom ddatblygu Adolygiad o Gostau ychwanegol hefyd, i adlewyrchu’r broses o gaffael a defnyddio peiriannau plasmafferesis yng Nghymru.
Gyda phwy?
Fe wnaethom gydweithredu gydag amrywiaeth o gynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwasanaeth Gwaed Cymru a Llywodraeth Cymru, a oedd yn edrych i mewn i’r agweddau ymarferol o ddefnyddio therapi plasma ymadfer ar gyfer pobl sydd â COVID-19.
Sut wnaeth pobl ymateb?
Gyda’i gilydd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwasanaeth Gwaed Cymru a Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i’n Hadroddiad Archwilio Pwnc a’n Hadolygiad o Gostau, ac wedi cael eu calonogi gan y canfyddiadau. Edrychwyd ar yr Adroddiad Archwilio Pwnc fwy na 100 gwaith hefyd ar y dudalen we yn y mis cyntaf ar ôl iddo gael ei gyhoeddi ar ein gwefan.
Mae ein gwaith wedi ennyn diddordeb a chydnabyddiaeth hefyd gan EUnetHTA (European Network for Health Technology Assessment) a nawr, mae HTW yn arwain Asesiad Cymharol o Effeithiolrwydd Perthynol gan EUnetHTA ar gyfer therapi plasma ymadfer.
Beth wnaeth pobl ddysgu?
Yn gyffredinol, mae’r therapi plasma ymadfer ar gyfer COVID-19 yn dangos diffyg sylfaen dystiolaeth aeddfed. Fodd bynnag, mae nifer o dreialon ar y gweill a sylfaen o lenyddiaeth sy’n datblygu’n gyflym. Rydym eisoes wedi cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf er mwyn adlewyrchu’r dystiolaeth sydd ar gael o’r newydd, ac rydym yn disgwyl y bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyhoeddi wrth i’r maes hwn ddatblygu.
Fe wnaeth ein hymchwilwyr ddarganfod rhywfaint o dystiolaeth ar effeithiolrwydd therapi plasma ymadfer i roi imiwnedd goddefol i COVID-19. Mae hyn yn cael ei ategu gan dystiolaeth o feysydd eraill lle mae’r clefyd yn weddol debyg. Gall ymchwil i gyflyrau cysylltiedig, fel SARS, helpu i ddatblygu ymchwil a defnyddio therapi plasma ymadfer.
Pa wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud?
Bydd yr Adroddiad Archwilio Pwnc a’r adolygiad o gostau yn cyfrannu at benderfyniadau Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwasanaeth Gwaed Cymru a Llywodraeth Cymru gyda’i gilydd. Bydd yn helpu i ddiffinio eu cyfeiriad ac yn sicrhau’r canlyniadau iechyd a gofal gorau posibl yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn darparu gwybodaeth hefyd i’r Asesiad Effeithiolrwydd Cymharol EUnetHTA parhaus.
Ewch i’n tudalen we bwrpasol ar gyfer COVID-19. Mae’r dudalen hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth newydd am y ffyrdd rydyn ni’n gweithio a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig.