Newyddion

05 Ebrill, 2022

Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2021 Technoleg Iechyd Cymru

 

 

 

 

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2021, sy’n disgrifio’r gwaith rydym wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i wella iechyd a gofal cymdeithasol i bobl Cymru.

 

Ers ei sefydlu yn 2017, mae HTW wedi cyhoeddi 23 darn o ganllawiau cenedlaethol ar dechnolegau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda’r potensial i effeithio ar 188,680 o unigolion yng Nghymru bob blwyddyn.

 

Yn 2021, fe wnaethom barhau i asesu technolegau iechyd a gofal sydd ddim yn feddyginiaethau, a chyhoeddi chwe darn o ganllawiau cenedlaethol ac ar yr un pryd, cefnogi Llywodraeth Cymru yn eu hymateb i’r pandemig COVID-19.

 

Fe gawsom ein penodi yn Bartner Cydweithredol Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru ym mis Mawrth 2021, ac fe wnaethom gynnal cyfres o adolygiadau tystiolaeth cyflym a chrynodebau ar bynciau sy’n ymwneud â COVID-19, a chwaraeodd ran bwysig yn y gwaith o gefnogi penderfyniadau polisi ar Covid gan randdeiliaid. Cyflawniad allweddol arall oedd sefydlu partneriaeth waith gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, a arweiniodd at gyhoeddi Cynllun Gweithredu Gofal Cymdeithasol, gyda’r nod o fapio sut y gallem gefnogi’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru yn well. Arweiniodd hyn at gyhoeddi ein darn cyntaf o ganllaw gofal cymdeithasol ar START – rhaglen i gefnogi gofalwyr pobl sydd â dementia.

 

Fe wnaethom barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn y DU ac yn fyd-eang, a chydweithio â phartneriaid rhyngwladol i greu datganiadau sefyllfa ar gyfer INAHTA (International Network of Agencies for Health Technology Assessment), ac fe wnaethom ennill Gwobr David Hailey 2021 am y stori effaith orau. Yn y cyfamser, fe wnaethom sicrhau bod grwpiau cleifion a’r rheini sy’n derbyn ac yn defnyddio gwasanaethau gofal yn rhan o’r broses asesu, drwy ein gwaith cynnwys y cleifion a’r cyhoedd.

 

Er bod ein gwaith craidd yn parhau i ganolbwyntio ar asesu technolegau iechyd, yn 2021, fe wnaethom ddechrau treialu ein harchwiliad mabwysiadu, a fydd yn cael ei gwblhau’n flynyddol o hyn ymlaen.  Nod yr archwiliad ydy sicrhau bod ein canllawiau’n cael effaith drwy wella mynediad at dechnolegau effeithiol a chost-effeithiol ar draws Cymru.

 

Dywedodd yr Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru: “Drwy gydol 2021, fe wnaethom barhau i gydbwyso ein hymrwymiad i gefnogi Llywodraeth Cymru yn ei hymateb i COVID-19, a chyflawni ein swyddogaeth graidd o ddethol, arfarnu a hyrwyddo’r gwaith o fabwysiadu technolegau iechyd sydd ddim yn feddyginiaethau i wella bywydau pobl yng Nghymru.

 

“Ein gweledigaeth yw parhau i ddatblygu sefydliad HTA o’r radd flaenaf, sy’n sicrhau bod technolegau iechyd sydd â’r potensial mwyaf i wella iechyd a gofal pobl ac sy’n cynnig y gwerth mwyaf, yn cael eu cydnabod a’u mabwysiadu yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’n partneriaid ar draws y sectorau iechyd a gofal yn 2022 i gyflawni’r nod hwn.”

 

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen ein hadroddiad, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar ein gwaith a pharhau i weithio mewn partneriaeth agos â rhanddeiliaid yn 2022.

 

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol 2021.