Cyhoeddi canllawiau ar driniaeth ar gyfer wlserau traed diabetig
Mae triniaeth ar gyfer pobl sydd ag wlserau traed oherwydd diabetes wedi cael ei argymell i’w defnyddio’n rheolaidd yng Nghymru gan Dechnoleg Iechyd Cymru.
Mae therapi ocsigen argroenol parhaus yn cael ei ddefnyddio i drin pobl sydd ag wlserau traed cronig a chymhleth oherwydd diabetes sydd ddim yn gwella – y rheswm unigol mwyaf pam mae pobl sydd â diabetes yn cael eu derbyn i’r ysbyty.
Mewn pobl sydd â diabetes, mae nam yn aml ar y cylchrediad i’r coesau, sy’n effeithio ar y cyflenwad gwaed ac ocsigen i rannau isaf y coesau. Mae hyn yn gallu arwain at broblemau gyda gwella toriadau a briwiau sydd wedyn, yn gallu datblygu i fod yn wlserau traed. Mae wlserau traed oherwydd diabetes yn gallu digwydd mewn 10% o bobl sydd â diabetes math 1 a math 2.
Mae therapi ocsigen argroenol parhaus yn gallu gwella’r clwyfau trwy gyflenwi llif allanol o ocsigen pur yn barhaus trwy diwbiau bach yn syth i’r clwyfau eu hunain.
Mae gwahanol ffyrdd o ddarparu Therapi Ocsigen Argroenol. Mae dyfeisiau Therapi Ocsigen Argroenol parhaus yn rhai bach, cludadwy sydd yn cael eu pweru gyda batris, a gellir eu defnyddio mewn gwahanol leoliadau gofal iechyd neu yng nghartref y claf.
Yn ôl ymchwil gan HTW i’r ddyfais Therapi Ocsigen Argroenol o’r enw NATROX, mae defnyddio therapi ocsigen argroenol parhaus, yn ychwanegol at safon y gofal, yn cynyddu nifer y clwyfau sydd yn gwella’n llwyr, ac yn lleihau ardal y clwyf a’r amser mae’n ei gymryd i wella, o’i gymharu â gofal safonol yn unig.
Gallai hyn arwain at arbedion amcangyfrifedig o £211 fesul claf, ac arwain at gyfanswm arbedion cost o £8,637 i’r GIG yng Nghymru.
Mae canllaw HTW yn dweud bod y dystiolaeth yn cefnogi defnyddio therapi ocsigen argroenol parhaus yn rheolaidd i drin cleifion sydd ag wlserau traed cronig a chymhleth oherwydd diabetes.
I ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma.