Cyhoeddi Cynllun Strategol HTW 2021-25
Mae’n bleser gennym gyhoeddi Cynllun Strategol HTW 2021-25, sydd wedi cael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â’n rhanddeiliaid allweddol, ac sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: “Mae’n wych gweld y cynnydd sydd wedi cael ei wneud gan Technoleg Iechyd Cymru dros y tair blynedd diwethaf, ac rwy’n croesawu eu nod uchelgeisiol o nodi technoleg a fydd o fudd cadarnhaol i’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.”
Mae’r Cynllun yn amlinellu ein nodau uchelgeisiol i ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol poblogaethau, drwy gymhwyso’r dystiolaeth orau sydd ar gael i lywio penderfyniadau ar y defnydd priodol o dechnolegau iechyd a gofal cymdeithasol arloesol yng Nghymru.
Mae’r rhain yn cynnwys ein pum prif amcan sy’n flaenoriaeth ar gyfer 2021-2022:
- Ehangu ymdrechion HTW i nodi, blaenoriaethu a dewis pynciau.
- Cynyddu’n sylweddol allbwn arfarnu tystiolaeth a chanllawiau HTW.
- Targedu technolegau gofal cymdeithasol a digidol arloesol i’w harfarnu.
- Cefnogi gwneud penderfyniadau gofal a pholisi COVID-19 sy’n hollbwysig o ran amser.
- Cynnal rhaglen beilot a chyflwyno swyddogaeth archwilio mabwysiadu technolegau HTW yn raddol.
Bydd hyn yn sicrhau ein bod ni’n parhau i gefnogi’r gwaith o nodi, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd a gofal cymdeithasol arloesol sy’n cynnig yr addewid mwyaf i sicrhau gwell iechyd, lles a gwerth i bobl Cymru.
Cliciwch yma i lawrwlytho Cynllun Strategol HTW 2021 – 25