Cyrff cenedlaethol i barhau i adeiladu ar lwyddiant cynghrair strategol Celtic Connections
Mae cynghrair strategol rhwng Technoleg Iechyd Cymru (HTW) a’i chymheiriaid cenedlaethol yn yr Alban ac Iwerddon yn mynd i gael ei hadnewyddu.
Bydd cynghrair strategol Celtic Connections yn gweld HTW, Grŵp Technoleg Iechyd yr Alban (SHTG) ac Awdurdod Ansawdd Gwybodaeth Iechyd Iwerddon yn parhau i rannu gwybodaeth ac yn archwilio cyfleoedd i weithio gyda’i gilydd ar arfarnu technolegau iechyd sydd ddim yn feddyginiaethau.
Bydd adnewyddu eu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i barhau i weithio mewn partneriaeth, yn sicrhau y gall y tri sefydliad wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael ar gyfer asesu technolegau iechyd, a chynyddu nifer y pynciau y cyhoeddir cyngor cenedlaethol ar eu cyfer.
Mae gwariant blynyddol ar dechnolegau iechyd sydd ddim yn feddyginiaethau yn cynyddu ar draws y DU, ac mae ffocws byd-eang cynyddol hefyd ar asesu technolegau sydd ddim yn feddyginiaethau ac ar ddatblygu methodolegau ar gyfer hyn.
Drwy weithio gyda’i gilydd, gall y tri chorff Asesu Technoleg Iechyd (HTA) Celtaidd ateb y galw hwnnw’n well, a goresgyn yr heriau o sicrhau bod gan bob sefydliad gyllideb gymedrol a staff i wneud y gwaith.
Dywedodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr HTW: “Rydym yn falch iawn o adnewyddu ein cynghrair strategol gyda Celtic Connections. Rydym eisoes wedi cael manteision mawr o fod yn rhan o’r gynghrair hon, gan gynnwys cyfleoedd i gyd-gynhyrchu ac addasu adolygiadau tystiolaeth, hyrwyddo gwybodaeth a chyfnewid staff, a chynyddu swm ac ystod y technolegau rydym yn eu hystyried.
“Mae HTW yn edrych ymlaen at barhau i adeiladu ar y cyflawniadau hyn, ac at barhau i gydweithio i fanteisio i’r eithaf ar gyfraniadau’r tri sefydliad.”
Nodau’r gynghrair ydy:
- Ffurfioli cydweithio a gweithio mewn partneriaeth, a gwella dealltwriaeth ar y cyd o raglenni a phrosesau gwaith.
- Archwilio cyfleoedd i gyd-gynhyrchu neu addasu adolygiadau tystiolaeth ar dechnolegau iechyd sydd ddim yn feddyginiaethau, sydd o ddiddordeb i’r ddwy ochr.
- Gwireddu arbedion maint a chwmpas mewn ymdrechion HTA sydd ddim yn feddyginiaethau, a chynyddu nifer ac ystod y pynciau technoleg y datblygir cyngor cenedlaethol ar eu cyfer ym mhob gwlad.
- Hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth i lywio datblygiadau mewn systemau gofal cenedlaethol perthnasol.
- Gwella cyfleoedd datblygiad proffesiynol a phersonol i’r staff gwyddonol ac ysgrifenyddiaeth.
Mae’r manteision a brofir gan HTW o fod yn rhan o’r gynghrair ers 2019 yn cynnwys:
- Cyd-gynhyrchu ac addasu adolygiadau tystiolaeth
- Secondio staff uwch
- Gwell mynediad i arbenigwyr clinigol a phynciau
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu a rennir ar gyfer staff
- Llai o ddyblygu a chostau’n cael eu gwireddu drwy gydweithio