Newyddion

28 Ionawr, 2025

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar toddiannau cloi cathetrau

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ar ddefnyddio toddiannau cloi cathetrau anfiotig, gwrthficrobaidd a gwrthgeulol ar  gyfer atal cymhlethdodau sy’n  gysylltiedig â chathetrau.

Mae toddiannau cloi cathetrau yn doddiannau hylif, sy’n cynnwys cynhwysion sydd yn gallu atal bacteria rhag cronni mewn cathetrau a allai achosi heintiau llif gwaed sy’n gysylltiedig â chathetrau.

Mae toddiannau cloi cathetrau anfiotig, gwrthficrobaidd a gwrthgeulol yn defnyddio cyfuniad o gynhwysion sydd ddim yn wrthfiotig, ond sy’n helpu i atal microbau rhag tyfu a phibellau gwaed i geulo.

Yn ôl y canllaw, mae’r dystiolaeth yn cefnogi defnyddio toddiannau cloi cathetrau yn rhannol.

Mae’n argymell y dylid ystyried TauroLock, math o doddiant cloi cathetrau, ar gyfer plant sy’n cael maeth drwy’r gwythiennau yn y cartref, cemotherapi neu drawsblaniad bôn-gelloedd, ac ar gyfer oedolion sy’n cael maeth drwy’r gwythiennau gartref neu ddialysis.

Yn ôl canllaw HTW, nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi’r achos dros fabwysiadu TauroLock-U25.000 fel mater o drefn.  Mae’n mynd ymlaen i ddweud bod mwy o ansicrwydd yn y dystiolaeth ar gyfer KiteLock 4% ac er bod y toddiant yn dangos addewid, nid yw’r dystiolaeth bresennol yn ddigonol i argymell ei ddefnyddio fel mater o drefn.

Argymhelliad canllaw HTW yw bod rhagor o ddata yn cael eu casglu am y canlyniadau clinigol a phrofiadau lleol mewn perthynas â defnyddio’r toddiannau hyn.

I ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma