Gwyliwch ein fideo astudiaeth achos
Rydym yn falch o gyhoeddi ein fideo astudio achos diweddaraf, sy’n disgrifio ein harfarniad o’r ddyfais monitro glwcos FreeStyle Libre, a sut y gallai hyn newid bywydau pobl sy’n byw â diabetes yng Nghymru.
Mae’r ddyfais monitro glwcos FreeStyle Libre yn synhwyrydd sydd yn cael ei wisgo gan bobl sy’n byw â diabetes, i fonitro eu lefelau siwgr yn y gwaed, a’u galluogi i reoli eu cyflwr yn fwy effeithiol a heb orfod gwneud profion pigo bysedd drwy’r dydd.
Fe wnaeth ein canllaw, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021, argymell mabwysiadu’r ddyfais yng Nghymru, a daeth i’r casgliad bod monitro glwcos fflach yn fwy effeithiol er gwaethaf y ffaith ei fod yn fwy drud, ac y dylai fod ar gael i bawb â diabetes sydd angen inswlin.
I dynnu sylw at effaith bosibl y canllaw hwn ac i godi ymwybyddiaeth o sut mae proses arfarnu pwnc HTW yn gweithio, fe wnaethom weithio gyda’r cwmni cynhyrchu fideo Working Word, i greu astudiaeth achos am y broses o gymeradwyo’r ddyfais monitro glwcos FreeStyle Libre.
Mae’r fideo astudio achos yn cynnwys cyfweliadau gyda Chadeirydd Technoleg Iechyd Cymru, yr Athro Peter Groves a Dr Julia Platts, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yng Nghymru, a gyda merch sy’n byw gyda diabetes, sydd wedi elwa o ddefnyddio’r ddyfais i fonitro lefelau glwcos ei hun.
I wylio’r fideo cliciwch yma.
Gall unrhyw un awgrymu pwnc i’w arfarnu. I gymryd rhan, ewch i’r dudalen Awgrymu Pwnc ar ein gwefan yma.