HTW a NICE yn addo parhau phartneriaeth
Mae Technoleg Iechyd Cymru a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn falch o gyhoeddi eu bod wedi llofnodi adnewyddiad o’u Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Mae hyn yn ailddatgan pwysigrwydd eu perthynas waith agos barhaus a’u bwriad i gryfhau cydweithio rhwng y ddau sefydliad.
Mae HTW a NICE yn cynnal Asesiad Technoleg Iechyd o dechnolegau meddygol sydd â’r potensial i wella canlyniadau ac effeithlonrwydd cleifion o fewn y GIG. Mae’n bwysig eu bod yn gweithio mewn ffordd gydweithredol, ac fe fydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sydd newydd ei lofnodi yn hwyluso hyn.
Bydd y cydweithrediad yn helpu i gefnogi HTW a NICE i gyflawni eu nod cyffredin o wella mynediad i gleifion i’r technolegau iechyd anfeddygol gorau sydd ar gael.
Dywedodd Mark Chapman, Cyfarwyddwr, Gwerthuso Technolegau Meddygol, NICE: “‘Rydym yn falch o barhau â’n partneriaeth waith gyda HTW, ac adeiladu ar ein perthynas waith lwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf.”
Ychwanegodd Yr Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru: “Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth â NICE i sicrhau ein bod yn cydweithio ar rannu arbenigedd ac adnoddau, a darparu arweiniad ar dechnolegau iechyd.
“Ers i ni arwyddo ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyntaf gyda NICE yn 2020, rydym wedi gweld y manteision o weithio ar lefel gydweithredol, a’n bwriad yw parhau i gryfhau’r bartneriaeth hon.”
Ymhlith y prosiectau y mae’r sefydliadau wedi gweithio arnynt ydy’r cynllun peilot IDAP (Innovative Devices Access Pathway) – prosiect ar y cyd rhwng NICE, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), HTW a Grŵp Technolegau Iechyd yr Alban (SHTG). Nod y prosiect yw datblygu llwybr sy’n caniatáu i ddatblygwyr technoleg ddarparu eu cynhyrchion i weithwyr gofal proffesiynol a defnyddwyr gwasanaeth ar y cyfle cyntaf a mwyaf diogel.