Mae’r adroddiad archwilio mabwysiadu diweddaraf yn dangos bod canllawiau HTW yn cael effaith ar draws Cymru

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein Hadroddiad Archwilio Mabwysiadu 2023/24.
Canolbwyntiodd archwiliad eleni ar 11 canllaw HTW a thri chanllaw Gwerthuso Technolegau Meddygol (MTEP) NICE.
Cyflawnodd yr archwiliad y gyfradd ymateb orau hyd yma, a chyhoeddodd lefelau uchel o ymwybyddiaeth o ganllawiau HTW.
Yn y cyfamser, roedd bron pob ymateb archwilio a dderbyniwyd yn nodi bod argymhellion canllawiau HTW a MTEP NICE yn glir.
Cafwyd ymatebion rhannol i’r archwiliad gan ddau o’r saith bwrdd iechyd, ac ymatebion llawn gan bedwar bwrdd iechyd arall.
Mae canfyddiadau allweddol yr archwiliad mabwysiadu yn cynnwys y canlynol:
- Mae ymatebion gan sefydliadau lle’r oedd y canllawiau’n berthnasol, yn dangos bod ymwybyddiaeth uchel o’r canllawiau (79%), bod yr argymhellion yn y canllawiau yn eglur (96%), a bod y canllawiau yn cael effaith yn y rhan fwyaf o achosion (72%). Mae’r ffigurau hyn yn gyson ag archwiliad y llynedd, neu’n welliant arno.
- Er y nodwyd bod y canllawiau’n eglur iawn, roedd rhai achosion lle nad oedd sefydliadau’n deall cylch gorchwyl canllawiau HTW yn llawn. Cafwyd sylwadau ynghylch y diffyg gwybodaeth ynghylch o ble y byddai cyllid ac adnoddau ychwanegol yn dod, a chwestiynau ynghylch gweithredu’r dechnoleg, sydd ddim o fewn cylch gorchwyl canllawiau HTW.
- Yn gyffredinol, glynwyd at ganllawiau HTW sy’n argymell mabwysiadu technoleg fel mater o drefn, er bod rhai enghreifftiau lle nad oedd sefydliadau wedi cadw at yr argymhelliad, neu’n ansicr a fyddent yn gwneud hynny.
- Ar gyfer canllawiau HTW sy’n cefnogi mabwysiadu’n “rhannol” fel mater o drefn, yn gyffredinol, roedd sefydliadau naill ai’n teimlo nad oedd y canllawiau’n ddigonol i newid polisi comisiynu neu arfer clinigol, neu roeddent yn ansicr.
- Roedd tri chanllaw NICE a archwiliwyd yn argymell defnyddio technoleg. Roedd effaith y tri chanllaw ar wneud penderfyniadau yn amrywio, o ddim effaith i effaith fawr.
Dywedodd Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru:
“Mae HTW yn chwarae rhan bwysig wrth helpu i sicrhau bod y technolegau iechyd mwyaf effeithiol a chost-effeithiol ar gael i bobl Cymru. Mae’r adroddiad hwn yn dangos yn glir yr effaith sylweddol y mae canllawiau HTW yn ei chael yn ein sector gofal iechyd. Mae hefyd yn braf iawn clywed bod yr archwiliad hwn wedi cyflawni’r gyfradd ymateb uchaf hyd yn hyn, sy’n dangos y gwelliannau parhaus sydd yn cael eu gwneud i broses archwilio mabwysiadu HTW.”
Dywedodd Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru: “Mae ein hadroddiad mabwysiadu diweddaraf yn dangos cymaint o effaith mae ein canllawiau yn ei chael ar draws Cymru. Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n partneriaid am eu cefnogaeth barhaus i’n gwaith, a’u cyfraniadau gwerthfawr i’r archwiliad mabwysiadu.
Ar ôl cwblhau’r archwiliad, rydym wedi dod i’r casgliad y dylem barhau i ymgysylltu’n agos â byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau arbenigol, i dderbyn y swm mwyaf o ymatebion i’r archwiliad a hefyd, i ystyried sut y gellir ymestyn y broses i gomisiynwyr eraill.
Byddwn hefyd yn adolygu cwestiynau’r archwiliad mabwysiadu, gyda’r bwriad o ddarparu nodiadau mwy manwl ar y canllawiau, a sicrhau bod cwestiynau mor glir â phosibl. Yn y dyfodol, dim ond cwestiynau priodol y bydd yn rhaid i’r sawl a fydd yn ymateb i’r archwiliad mabwysiadu eu hateb, yn dibynnu ar berthnasedd y canllawiau i’w sefydliad.
I ddarganfod mwy a darllen adroddiad Archwiliad Mabwysiadu HTW 2023/24 yn llawn, cliciwch yma.