Hwb Gwyddorau Bywyd yn lansio arolwg rhanddeiliaid
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd wedi lansio ei arolwg rhanddeiliaid yn 2023, lle bydd yn annog adborth gan gydweithwyr yn y diwydiant, y byd academaidd, iechyd, gofal cymdeithasol ac eraill sydd â chysylltiadau â’r sector gwyddorau bywyd.
Nod yr arolwg yw helpu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddeall anghenion rhanddeiliaid yn well, a siapio ei ddarpariaeth a’i gefnogaeth o ran gwasanaethau.
Mae’r arolwg yn fyw tan 25 Chwefror, ac nid yw’n cymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau, naill ai yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mae’r holl ganlyniadau yn gwbl ddienw, ac mae’r data’n cael ei gasglu a’i reoli gan Beaufort Research.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â Phennaeth Marchnata a Chyfathrebu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, dawn.bratcher@lshubwales.com.