Newyddion

28 Chwefror, 2023

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos sut mae Cymru’n sbarduno gweledigaeth y DU ar gyfer gwyddorau bywyd

Tynnwyd sylw at bwysigrwydd Cymru i sector gwyddorau bywyd y DU mewn dwy set o ffigurau diweddar sy’n dangos perfformiad cryf mewn agweddau allweddol ar fusnesau gwyddorau bywyd yng Nghymru.

Mae Ffigurau gan y Swyddfa Gwyddorau Bywyd (OLS), a ryddhawyd ar 01 Rhagfyr 2022 ac sy’n cynnwys data hyd at ddiwedd y flwyddyn ariannol yn 2021, yn dangos twf cryf yn incwm a chyflogaeth busnesau gwyddorau bywyd yng Nghymru.

Yn y cyfamser, mae’r ffigurau allforio diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos dylanwad byd-eang cynyddol gwyddorau bywyd Cymru. Mae’r ffigurau, a gyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr 2022, ac sy’n cynnwys data hyd at drydydd chwarter 2022, yn dangos twf sylweddol mewn allforion ar gyfer y diwydiant gwyddorau bywyd.

Y Prif Bwyntiau:

  • Mae ffigurau OLS yn dangos bod twf incwm busnesau gwyddorau bywyd yng Nghymru yn uwch na thwf busnesau yng ngweddill y DU. Mae’r diwydiant wedi cynhyrchu £2.62 biliwn mewn trosiant yng Nghymru – cynnydd o 12.1% ers y flwyddyn flaenorol – o’i gymharu â chynnydd o 9% yn nhrosiant busnesau gwyddorau bywyd ledled y DU fel cyfangorff.
  • Mae nifer y bobl oedd yn cael eu cyflogi yn y diwydiant yng Nghymru hefyd wedi cynyddu 1.9%, gan barhau â’r tuedd o dwf cyson mewn ffigurau cyflogaeth, a chadw’n wastad â’r ffigurau twf cyflogaeth a welwyd yng ngweddill y DU.
  • Mae nifer y busnesau gwyddorau bywyd sy’n gweithredu yng Nghymru wedi aros yn gadarn, gyda chynnydd bach o 0.4%, ar ôl gweld gostyngiad yn nifer y busnesau mewn blynyddoedd blaenorol.
  • Mae’r ffigurau allforio diweddaraf yn dangos bod nwyddau ‘Meddyginiaethol a Fferyllol’ ymhlith y 5 cynnyrch uchaf a oedd yn cael eu hallforio o Gymru. Gyda gwerth blynyddol o £1.1 biliwn, roedd yr allforion fferyllol diweddaraf wedi codi dros 30% o’i gymharu â’r cyfnod blaenorol.

Shot for Stills.com
Life Sciences Hub, Cardiff bay with Ken Skates & Vaughan Gethin.
© WALES NEWS SERVICE

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Roeddwn i’n falch o weld y ffigurau diweddaraf yn dangos cryfder y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru, ond doeddwn i ddim yn synnu. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati’n rhagweithiol i gefnogi twf y diwydiant ac wedi creu amgylchedd lle gall busnesau gwyddorau bywyd ffynnu.

2Fel mae’r ymateb unedig i Covid-19 wedi dangos, rydyn ni hefyd wedi gweld y diwydiant yn dod at ei gilydd go iawn, gyda busnesau a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn cydweithio’n fwy effeithiol nag erioed i ddod o hyd i atebion i heriau gwirioneddol ym maes iechyd a gofal. Mae hyn wedi bod yn beth cadarnhaol iawn i gleifion ac i’r diwydiant fel ei gilydd, ac rydyn ni yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch o fod wedi chwarae rhan yn hynny.

O ystyried y datblygiadau cyffrous a welsom yn 2022, gan gynnwys cwmnïau rhyngwladol mawr yn tyfu yng Nghymru a llawer o fusnesau newydd ac arloesol yn cael eu lansio, rwy’n credu y byddwn yn gweld tystiolaeth gryfach fyth o bŵer gwyddorau bywyd Cymru yn y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi:

“Mae ein sector gwyddorau bywyd yn rhan hollbwysig o economi Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn benderfynol o gefnogi’r sector i dyfu a ffynnu, ac mae’r canlyniadau diweddaraf hyn yn dangos bod cymorth yn wirioneddol yn dwyn ffrwyth.

“Nid yn unig mae ein cwmnïau gwyddorau bywyd yn creu ac yn darparu swyddi o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru, ond maen nhw hefyd yn datblygu cynnyrch a gwasanaethau sy’n mynd i’r afael â’r problemau rydyn ni’n eu hwynebu fel cymdeithas heddiw. Mae hyn yn hanfodol wrth i ni barhau i adfer ar ôl pandemig Covid, gan alluogi pobl i fyw bywydau cynhyrchiol ac iachach.”

Yn ogystal â’r ffigurau diweddar, amlygwyd arwyddocâd sector gwyddorau bywyd Cymru tua diwedd y llynedd gan Ysgrifennydd Masnach y DU, Kemi Badenoch, mewn ymweliad â Chymru. Yn ystod yr ymweliad, roedd yr Ysgrifennydd Masnach wedi disgrifio Cymru fel rhywle oedd “yn hollbwysig i’n sector gwyddorau bywyd” yn ogystal â rhywle oedd yn “hybu safle’r DU fel archbŵer gwyddoniaeth”.

Gall busnesau gwyddorau bywyd sy’n gweithredu yng Nghymru (neu sy’n ystyried gwneud hynny) gael mynediad at amrywiaeth o gymorth gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. O arloesi a chymorth â phrosiectau wedi’i deilwra, i gyflwyniadau a chyfleoedd i rwydweithio, cysylltwch â’u tîm o arbenigwyr i weld beth sydd ar gael yn https://lshubwales.com/cy/innovation-enquiry-form