Newyddion

17 Chwefror, 2022

Pecyn cymorth micro-gostio i fynd i’r afael â’r heriau o gyflwyno therapïau celloedd a genynnau i gleifion y GIG

An illustrative graphic with people around a screen with mapMae Technoleg Iechyd Cymru wedi helpu i fynd i’r afael â’r her o gyflwyno therapïau celloedd a genynnau cost uchel i gleifion y GIG, drwy greu pecyn cymorth micro-gostio.

Cydweithiodd y sefydliad, sy’n asesu technolegau iechyd sydd ddim yn feddyginiaethau yng Nghymru, â Chanolfan Triniaeth Therapi Uwch Canolbarth Lloegr (MW-ATTC) a rhwydwaith o arbenigwyr, i greu’r pecyn cymorth fel rhan o Raglen Rhwydwaith y Ganolfan Triniaeth Therapi Uwch.

Nod y prosiect oedd darparu adnodd y gellid ei ddefnyddio i gynnal dadansoddiadau economaidd iechyd cadarn wrth gyflwyno therapïau celloedd a genynnau cost uchel i gleifion yn y GIG. Mae angen cynhyrchu tystiolaeth economaidd yn gynnar wrth ddatblygu therapïau celloedd a genynnau, er mwyn hwyluso dadansoddiad economaidd iechyd a galluogi mynediad i’r farchnad. (Cell & Gene Therapy Catapult, 2019). Un her ganolog wrth asesu cost-effeithiolrwydd ymyriad yw nodi, mesur a phrisio adnoddau gofal iechyd yn gywir.

Nod Rhaglen Rhwydwaith y Ganolfan Triniaeth Therapi Uwch yw datblygu offer, fframweithiau a methodolegau i helpu i asesu therapïau uwch ac felly, hwyluso penderfyniadau comisiynu yn y dyfodol.

Perfformiodd HTW adolygiad llenyddiaeth systematig o’r dulliau casglu adnoddau a ddefnyddiwyd mewn dadansoddiadau economaidd blaenorol o therapïau uwch. Yna, defnyddiodd y dystiolaeth hon a mewnbwn arbenigol i ddatblygu pecyn cymorth micro-gostio. Nod y pecyn cymorth micro-gostio yw hwyluso’r gwaith o asesu cost lawn darparu therapïau uwch i’r GIG. Gallai hyn lywio asesiadau yn y dyfodol o p’un a yw gwahanol therapïau uwch yn rhoi digon o werth am arian.

Mae’r pecyn cymorth micro-gostio yn torri lawr y broses o ddarparu therapïau uwch i wahanol gamau, o asesu addasrwydd cleifion hyd at fonitro rheolaidd, er mwyn hwyluso’r gwaith o ddwyn ynghyd y costau sydd yn cael eu hysgwyddo ar wahanol adegau ac mewn gwahanol rannau o’r system. Bwriedir i’r pecyn cymorth micro-gostio fod yn hyblyg; er enghraifft, mae’r defnyddiwr yn gallu dewis y math o therapi uwch (in vivo Gene Therapy Medicinal Product (GTMP), ex vivo GTMP, Somatic Cell Therapy Medicinal Product neu Tissue Engineered Product). Mae wedi cael ei gynllunio hefyd, i fod yn hyblyg i’r gwahanol fathau o ddata a allai fod ar gael. Gallai gynnwys costau ‘micro-gostio’ manwl neu gostau lefel uwch o’r brig i lawr lle bo hynny ar gael. Gallai’r pecyn cymorth lywio’r gwaith o gasglu data ochr yn ochr â threialon wedi’u rheoli ar hap, neu gallai economegwyr iechyd sy’n cynnal dadansoddiadau economaidd eu llenwi wedyn.

Cofnododd HTW weminar sy’n dangos sut y gellid defnyddio’r pecyn cymorth micro-gostio yn ymarferol, sydd ar gael yma: https://www.theattcnetwork.co.uk/webinars