Newyddion

15 Chwefror, 2023

Penodi Dirprwy Gadeirydd newydd ar gyfer Panel Arfarnu Technoleg Iechyd Cymru

Mae’n bleser gennym gyhoeddi penodiad Dirprwy Gadeirydd Panel Arfarnu Technoleg Iechyd Cymru

Mae Dr Andrew Champion, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Gwerthuso Tystiolaeth ac Effeithiolrwydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cael ei benodi i’r rôl.

Yn ddiweddar, adnewyddodd HTW ei Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda WHSCC, ac mae’r ddau sefydliad wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd yn llwyddiannus ers 2018 i gefnogi arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd anfeddygol yng Nghymru.

Rôl y Panel Arfarnu yw llunio canllawiau cenedlaethol HTW ar dechnolegau iechyd a gofal anfeddygol drwy ystyried y dystiolaeth sydd ar gael, o fewn cynnwys y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r panel yn helpu i ddarganfod pynciau i’w harfarnu hefyd, yn gwerthuso faint sy’n defnyddio’r canllawiau, ac yn hwyluso ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Fel aelod presennol o’r Panel Arfarnu, mae gan Dr Champion ddealltwriaeth fanwl o waith HTW yn barod. Mae wedi bod yn gweithio i’r GIG ers bron i 30 mlynedd, yn cwmpasu ystod o rolau ymchwil a rheolaethol, ac mae ganddo ddiddordeb cryf mewn meddygaeth seiliedig ar dystiolaeth.

Yn 2003, cafodd ei benodi’n Rheolwr/Cyfarwyddwr rhaglen canllawiau clinigol canser y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ac yn 2016, dechreuodd yn ei rôl bresennol yn WHSSC, lle mae’n canolbwyntio ar wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth ar draws y sefydliad.

“Rydym yn falch iawn ei fod wedi derbyn y swydd Dirprwy Gadeirydd, ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef i sicrhau bod y technolegau iechyd a gofal anfeddygol mwyaf effeithiol a chost-effeithiol ar gael yng Nghymru.”

Meddai’r Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru: “Fel Cadeirydd y Panel Arfarnu, rwy’n falch iawn bod Andrew wedi cytuno i gymryd y rôl hon, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei groesawu fel fy Nirprwy. Bydd ei benodiad yn cryfhau cadernid ein grŵp gwneud penderfyniadau, a bydd ei arbenigedd fel Comisiynydd Arbenigol yn cefnogi ein huchelgais i sicrhau y gall anghenion y sectorau Iechyd a Gofal yng Nghymru gael eu hateb drwy ein proses arfarnu.”

Meddai Dr Andrew Champion: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau gweithio yn y rôl hon a chefnogi HTW i gynhyrchu canllawiau, gyda’r potensial i ddatrys rhai o’r heriau sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Rwy’n teimlo’n gryf am y pwysigrwydd o wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth mewn gofal iechyd, ac rwy’n credu bod cyfleoedd cyffrous o’n blaenau i wella mynediad i’r technolegau iechyd a gofal cymdeithasol gorau sydd ar gael.”

Meddai Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru: “Mae profiad helaeth Dr Champion ym maes meddygaeth seiliedig ar dystiolaeth yn golygu ei fod yn gallu darparu cipolwg gwerthfawr i’r Panel Arfarnu.