Recordiad o’r digwyddiad Datrysiadau Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru nawr ar gael
Mae recordiad o’r digwyddiad Datrysiadau Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru bellach ar gael i’w weld drwy sianel YouTube yr Hwb Gwyddorau Bywyd.
Ymunodd Technoleg Iechyd Cymru â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac Ecosystem Iechyd Digidol Cymru i gynnal y digwyddiad, a oedd yn archwilio cyfleoedd ar gyfer datrysiadau digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ystod y digwyddiad rhithwir dau ddiwrnod, ymunodd Glyn Jones, Prif Swyddog Digidol, Llywodraeth Cymru â ni, a amlinellodd y Strategaeth Ddigidol i Gymru. Ymunodd siaradwyr gyda ni hefyd, oedd yn trafod pynciau sy’n amrywio o werthuso technolegau digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, i’r Llwybr Mynediad Dyfeisiau Arloesol.
Cymerodd y rheini a fynychodd y digwyddiad ran mewn sesiwn ryngweithiol, lle gwnaethant gymhwyso fframwaith safonau tystiolaeth NICE i dechnolegau digidol. Yn y cyfamser, ar yr ail ddiwrnod, cyflwynodd arloeswyr o PainChek a Health.io eu technolegau i banel arbenigol, a roddodd adborth ynghylch p’un a oedd y dyfeisiau’n bodloni meini prawf asesu technoleg iechyd.
Rhoddwyd cyflwyniadau hefyd am Alwad Pwnc Agored Digidol Technoleg Iechyd Cymru sydd i ddod, a fydd yn ceisio dod o hyd i ddatrysiadau digidol sydd â’r potensial i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Roedd adborth gan y rheini a fynychodd y digwyddiad yn cynnwys:
“Diolch gymaint, dwi wedi ennill cymaint i ysbrydoli gwaith yn y dyfodol”
“Cyflwyniadau a thrafodaeth wych heddiw – diolch!”
“Diolch yn fawr am eich help ddoe, roedd y digwyddiad yn wych, yr un gorau dwi wedi’i fynychu, mae’n debyg, o ran cynnwys a pherthnasedd.”
I wylio recordiad o’r digwyddiad, cliciwch yma: https://youtu.be/yDa2mL90lw0
Unfortunately due to technical difficulties the recording of the second day is not available.