Technoleg Iechyd Cymru ac AWTTC yn llofnodi cynghrair strategol
Bydd Technoleg Iechyd Cymru a Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn gweithio’n agos gyda’i gilydd yn eu rolau i ddarparu cyngor a chyfarwyddyd arbenigol i ddarparwyr gofal iechyd.
Mae’r ddau sefydliad wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, a byddant yn rhannu’r buddiannau cyffredin drwy feithrin cysylltiadau agosach a dysgu o brosesau ei gilydd.
Meddai Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru: “Gyda chylch gwaith Technoleg Iechyd Cymru yn ymwneud â thechnolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau a chylch gwaith AWTTC yn ymwneud â meddyginiaethau, mae ein cydweithrediad ar feysydd blaenoriaeth cenedlaethol yn gam naturiol yn ein gwaith i geisio gwella ansawdd gofal yng Nghymru.”
Mae Technoleg Iechyd Cymru yn gorff cenedlaethol a sefydlwyd yn 2017 i weithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a thechnoleg, i ddarparu dull strategol o nodi, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd newydd. Mae HTW yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal o fewn GIG Cymru, ond mae’n annibynnol ar y ddau. Mae eu cylch gwaith yn cynnwys unrhyw dechnoleg iechyd nad yw’n feddyginiaeth, fel dyfeisiau meddygol, triniaethau llawfeddygol, therapïau seicolegol neu delefonitro.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am Technoleg Iechyd Cymru.
Mae AWTTC yn darparu portffolio o wasanaethau ym meysydd therapiwteg a thocsicoleg, gan gynnwys gwerthuso technoleg iechyd sy’n ymwneud â meddyginiaethau. Mae AWTTC eisiau creu Cymru iachach a mwy hyddysg, a’i nod yw gweithredu fel y corff awdurdodol ar therapiwteg a thocsicoleg yng Nghymru. Mae gan AWTTC gynrychiolaeth ar nifer o grwpiau Technoleg Iechyd Cymru, gan gynnwys y Panel Gwerthuso, y Grŵp Asesu a’r Grŵp Cyfeirio Drws Ffrynt.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am AWTTC.
Bydd y ddau sefydliad yn cynnig gwell mynediad i’w gilydd; canolfannau rhagoriaeth, grwpiau cyfoedion, rhwydweithiau cenedlaethol a rhyngwladol. Bydd cyfleoedd datblygu i staff hefyd, ac mae hyn wedi digwydd yn barod. Ymunodd ymchwilydd o’r gwasanaethau iechyd â Technoleg Iechyd Cymru ar secondiad o AWTTC ym mis Tachwedd.
Bydd y ddau sefydliad yn cefnogi swyddogaethau arfarnu ei gilydd, trwy gyfrwng adolygiadau gan gymheiriaid a phrosesau sicrhau ansawdd. Bydd aelodau o staff yn cael cyngor trylwyr gan eu cyfoedion hefyd, yn defnyddio cryfderau priodol pob sefydliad.