COVID-19

24 Mawrth, 2021

Technoleg Iechyd Cymru i weithio mewn partneriaeth gyda Chanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru

A graphic for HTW's COVID-19 work

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi cael ei enwi fel Partner Cydweithredu yng Nghanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru.

Mae’n golygu y bydd y corff Asesu Technoleg Iechyd (HTA) cenedlaethol yn darparu arbenigedd ym maes ymchwil, a mewnbwn i’r ganolfan newydd sbon gwerth £3m ar gyfer pynciau COVID-19.

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Chanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, yn enwedig gan fod cymaint o frys am yr angen am ymchwil drylwyr. Mae ein tîm wedi helpu i wneud penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth a phenderfyniadau sy’n bwysig o ran amser ers dechrau’r pandemig. Rydym wedi dysgu gwybodaeth bwysig yn barod, ond mae llawer i’w ddysgu o hyd wrth i ni barhau â’r rôl hanfodol hon, a cheisio gwella canlyniadau i’r bobl a’r gwasanaethau sydd yn cael eu heffeithio gan COVID-19,” meddai Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru.

Dywedodd yr Athro Adrian Edwards, a gafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth COVID-19 newydd Cymru ym mis Ionawr: “Mae ymchwil yn fwy pwysig nag erioed o’r blaen – mae’n ganolog i bolisi ac ymarfer yn y pandemig. Er enghraifft, mae angen inni ddeall effaith y pandemig ar iechyd cymunedau a phobl yng Nghymru, ac ar y systemau darparu iechyd a gofal yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o gynnwys HTW yn y gwaith hanfodol hwn ar y camau rheoli, adfer ac adfywio yn dilyn y pandemig.”

Mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru wedi cael ei chreu ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae hi wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd. Prif bwrpas y Ganolfan ydy defnyddio canfyddiadau ymchwil ar draws y DU ac ar lefel rhyngwladol, i gefnogi’r penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru.

Bydd cydweithio â HTW, a sawl partner cenedlaethol a rhyngwladol arall, yn helpu ymchwilwyr ymroddedig yng Nghanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru i fynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol, fel effeithiau hirdymor y pandemig.

Mae HTW eisoes wedi ail-bwrpasu ei setiau sgiliau amrywiol i gefnogi’r ymateb i’r pandemig, gan ddadansoddi’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg a chynhyrchu nifer o gynnyrch newydd. Roedd hyn yn cynnwys mewnbwn i nifer o bwyllgorau a thasgluoedd Llywodraeth Cymru, ysgrifennu tri adolygiad ar y cyd â chydweithwyr yn Ewrop, a rhoi cyngor gwyddonol i ddiwydiannau.

I gael rhagor o wybodaeth am waith HTW sy’n gysylltiedig â COVID-19, cliciwch yma i weld ein tudalen we bwrpasol.