Newyddion

20 Rhagfyr, 2019

Technoleg Iechyd Cymru yn dathlu ei hail ben-blwydd ac yn gosod gweledigaeth ar gyfer 2020

Ar dddydd Iau 19 Rhagfyr, cynhaliwyd digwyddiad i ddangos ein llwyddiant ac i ddathlu ein hail ben-blwydd.

Cyn cyfnod y Nadolig, fe wnaethom groesawu mwy na 50 o bobl i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, o amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys; iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau asesu technolegau, diwydiant a’r byd academaidd.

Ymunodd sawl un o’r gwneuthurwur penderfyniadau allweddol â ni, a gyflwynodd gyfres o drafodaethau a oedd yn ysgogi’r meddwl ynglŷn â HTW a’n rôl ni o ran cefnogi dull cenedlaethol o adnabod, arfarnu a mabwysiadu technolegau nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaethau.

Meddai Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru, “Mae hi wedi bod yn bleser dathlu ein hail ben-blwydd gyda chynrychiolwyr o blith ein hamrywiaeth eang o randdeiliaid, a dangos y gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud iddyn nhw”.

“Rydym wedi cyflawni llawer dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Heddiw, rydyn ni’n dathlu’r effaith rydyn ni wedi’i chael ar bobl a gwasanaethau gofal yng Nghymru, ond rydyn ni hefyd yn manteisio ar y cyfle i rannu a llunio ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

“Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2018-2019 heddiw. Mae’r ddogfen 40 tudalen hon yn nodi ein llwyddiant dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac yn tynnu sylw at effaith ein Canllawiau ar bobl a gwasanaethau gofal yng Nghymru.”

Dechreuodd y trafodaethau gyda Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, a ganolbwyntiodd ar sut rydym yn mynd i’r afael ag argymhellion ymchwiliad 2014 i ‘ Fynediad at dechnolegau meddygol.’ Soniodd am ein gwaith hefyd o ran targedu meysydd blaenoriaeth iechyd a gofal Llywodraeth Cymru. ,

Yna, trafododd Ifan Evans, Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru, sut rydym yn cefnogi arloesedd a’n rhaglen waith brysur.  Trafoddodd hefyd, sut mae ein methodoleg yn cyflymu’r broses arfarnu technolegau a’r cylch mabwysiadu yng Nghymru, ac yn galluogi Cymru i fod yn ymatebol i’r tirlun technolegau sy’n newid yn gyson.

Cyflwynwyd sgwrs am ein gwaith i adnabod technolegau iechyd nad ydynt yn ymwneud â meddyginiaethau gan Dr Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol Iechyd Llywodraeth Cymru. Mae dros 120 o bynciau wedi cael eu hawgrymu i ni ers i ni gael ein sefydlu yn 2017, gan gynnwys 83 i’n Galwadau Pwnc Agored.

Arweiniodd ein Cadeirydd, yr Athro Peter Groves, y drafodaeth am ein gwaith arfarnu. Amcangyfrifir bod 77,600 o bobl yn cael eu heffeithio gan ein Canllawiau (y flwyddyn) a gan arbedion cost posibl o £5,240,000 (y flwyddyn) * o’n Canllawiau. Cliciwch yma i ddysgu mwy am ein heffaith.

Rydym wedi cydweithio â Chomisiwn Bevan drwy gydol 2018 a 2019. Soniodd Helen Howson, Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan, am y broses o fabwysiadu ein Canllawiau. Rhoddodd fanylion am sut rydym yn gweithio i sicrhau’r effaith fwyaf, a galluogi comisiynwyr iechyd a gofal i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Daeth ein huwch arweinwyr, yr Athro Peter Groves a Dr Susan Myles, â’r prynhawn i ben drwy arddangos ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid, a gosod ein gweledigaeth ar gyfer 2020.

Trefnwyd nifer o weithgareddau i’r rheiny oedd yn bresennol ryngweithio â nhw drwy gydol y dydd. Fe wnaethom gydweithio â myfyrwyr darlunio ym Mhrifysgol De Cymru i ddylunio byrddau gwerthuso. Cafodd y dasg ei hadeiladu i mewn i un o’u modiwlau, a chafodd y dyluniadau terfynol eu gwneud gan Emily Roach, myfyrwraig ail flwyddyn. Dywedodd y rheiny oedd yn bresennol wrthym sut rydym yn gwneud gwahaniaeth ac yna, fe ofynnom iddyn nhw wneud adduned i ni yn 2020.

Cliciwch yma i lawrlwytho’r setiau sleidiau.

Gallwch gael eich diweddaru am ein gwaith yn y dyfodol drwy glicio yma, i danysgrifio i’n rhestr bostio.

*Mae’r ffigur hwn yn seiliedig ar y dybiaeth y byddai cynnydd o 50% mewn technoleg yn absenoldeb Canllawiau HTW.