Technoleg Iechyd Cymru yn lansio dau e-gyhoeddiad newydd
Mae’n bleser gennym gyhoeddi dau e-gyhoeddiad newydd a fydd yn rhoi newyddion rheolaidd i chi am HTW a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch: Chwarterol HTW a Hysbysiadau o Ganllawiau.
E-gylchlythyr ydy Chwarterol HTW, sydd yn cael ei anfon ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob chwarter, yn dechrau ar ddydd Llun 2 Mawrth 2020. Mae’n grynodeb o’n gweithgareddau i wella gofal yng Nghymru, a bydd yn cynnwys newyddion, y Canllawiau a’r adroddiadau diweddaraf, digwyddiadau, cyfleoedd hyfforddi a mwy.
Hysbysiadau e-byst ydy Hysbysiadau o Ganllawiau, sydd yn cael eu hanfon drwy e-bost bob tro y byddwn yn cyhoeddi darn newydd o Ganllaw ar dechnoleg iechyd. Mae ein Canllawiau yn cyhoeddi argymhellion ar ddefnyddio technoleg ar gyfer iechyd a/neu ofal, ac mae’n crynhoi’r dystiolaeth allweddol a’r goblygiadau ar gyfer y dechnoleg yng Nghymru. Mae hyn yn galluogi comisiynwyr a’r rheiny sy’n gwneud penderfyniadau i ddarparu gofal ar sail tystiolaeth.
Mae E-gylchlythyr Chwarterol HTW a Hysbysiadau o Ganllawiau yn berthnasol i bobl sy’n gweithio yn y sectorau iechyd, gofal a diwydiant, ac mewn rhai achosion, i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau o’r cyhoedd. Bydd yr e-gyhoeddiadau yn rhannu gwybodaeth wrth i ni gyflawni ein rôl o gefnogi dull cenedlaethol o nodi, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau yng Nghymru.
Oes yna rywbeth rydych chi’n meddwl y dylem ni ei gynnwys yn E-gylchlythyr Chwarterol nesaf HTW? Rhowch wybod i ni yn info@healthtechnology,wales a rhowch ‘ E-gylchlythyr Chwarterol HTW ‘ yn y llinell pwnc.