Newyddion

31 Ionawr, 2020

Technoleg Iechyd Cymru yn ymuno â’r tîm amlddisgyblaethol Accelerate

The image shows the logos of Health Technology Wales and Accelerate, in front of the Life Sciences Hub Wales.

Rydym wedi ymuno â chyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol Accelerate, y cydweithrediad arloesol i helpu i droi syniadau arloesol yn dechnolegau, cynnyrch a gwasanaethau newydd ar gyfer y sector iechyd a gofal, yn gyflym.

Mae’r cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol, sydd yn cael eu rhedeg pob mis, yn goruchwylio gweithgareddau Accelerate, ac yn ceisio gwella eu hymyriadau lle bo’n bosibl. Maen nhw’n cael eu cynrychioli gan randdeiliaid Allanol fel y GIG a Diwydiant.

Bydd ein rôl yn cynnwys adolygu cynigion prosiectau sy’n cael eu cyflwyno i’r rhaglen, a darparu gwybodaeth am werthuso gwasanaethau iechyd ac economeg iechyd o gyfnod cynnar. Mae’r cymorth hwn yn cael ei alluogi gan ein cylch gwaith i gefnogi dull cenedlaethol o adnabod, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaethau yng Nghymru.

Mae’r rhaglen Accelerate yn cynnig mynediad at arbenigedd academaidd, dealltwriaeth fanwl o ecosystem gwyddorau bywyd, a’r cyfleusterau diweddaraf er mwyn i arloeswyr fedru rhoi eu syniadau ar waith.

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru sy’n gyfrifol am Accelerate, sef cydweithrediad arloesol gyda Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae Accelerate yn cael ei ariannu’n rhannol a’i gefnogi gan raglan Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am Accelerate.