Newyddion

09 Gorffennaf, 2021

Y canllaw a gyhoeddwyd: Capiau rhwystro gwrthficrobaidd i’w defnyddio gyda hybiau cathetrau haemodialysis

 

Heddiw, mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi Capiau rhwystro gwrthficrobaidd i’w defnyddio gyda hybiau cathetrau haemodialysis.

Fe wnaethom arfarnu effeithiolrwydd clinigol ac effeithiolrwydd cost Capiau rhwystro gwrthficrobaidd i’w defnyddio gyda hybiau cathetrau haemodialysis.

Mae’r dystiolaeth yn cefnogi mabwysiadu fel mater o drefn gapiau rhwystro gwrthficrobaidd ClearGuard HD i’w defnyddio gyda hybiau cathetr hemodialysis.

Mae tystiolaeth glinigol yn dangos bod defnyddio capiau ClearGuard HD yn lleihau cyfradd heintiau yn llif y gwaed o gymharu â chapiau safonol. Mae modelu economaidd yn awgrymu bod potensial ar gyfer arbedion cost cyffredinol drwy defnyddio ClearGuard HD.

Mae Technoleg Iechyd Cymru yn argymhell casglu data archwiliad byd real ynglŷn â defnydd capiau ClearGuard HD yng Nghymru.

Statws ein Canllawi yw y dylai GIG Cymru fabwysiadu’r canllaw hwn, neu gyfiawnhau pam na gafodd y canllaw ei ddilyn. Byddwn yn arfarnu mabwysiadu ac effaith ein Canllaw.

Rydym wedi cyhoeddi Canllaw, Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth (EAR), Adroddiad Archwilio Pwnc a chrynodeb iaith blaen ar gyfer y pwnc hwn. Cliciwch yma i ddarllen am y pwnc hwn.

Mae Panel Arfarnu HTW yn ystyried tystiolaeth arfarnu yng nghyd-destun GIG Cymru, ac yn cynhyrchu Canllawiau HTW. Mae’r panel yn ein helpu i nodi pynciau pwysig, gwerthuso’r nifer sy’n manteisio ar ganllawiau, ac yn hwyluso ymgysylltu â rhanddeiliaid. Mae ganddo gynrychiolaeth amlddisgyblaethol, ar draws Cymru gyfan. Dysgwch fwy am ein Proses Arfarnu.