Newyddion

30 Mehefin, 2026

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar tomograffeg gyfrifiadurol pelydr conigol y fron

 

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw cenedlaethol ar domograffeg gyfrifiadurol pelydr côn ar gyfer delweddu’r fron ar gyfer pobl yr amheuir bod ganddynt ganser y fron.

 

Mae CBBCT yn dechnoleg delweddu’r fron y gellir ei defnyddio i greu delweddau tri dimensiwn cydraniad uchel o bob bron mewn tua saith eiliad. Mae’n defnyddio ymbelydredd tebyg i famograffeg gonfensiynol gyda llai o gywasgiad ar y fron.

 

Mae wedi cael ei honni y gall y dechnoleg ddarparu canlyniadau mwy cywir ar gyfer meinwe trwchus y fron, a darganfod anafodau bychain o’i gymharu â mamograffeg dau ddimensiwn.

 

Yn ôl canllaw HTW fodd bynnag, mae angen mwy o dystiolaeth ar y dechnoleg. Ni wnaeth HTW ddarganfod llawer o dystiolaeth ar effeithiolrwydd clinigol CBBCT. Nid oedd yn gallu penderfynu ar effeithiolrwydd y dechnoleg o ran cost ychwaith. Cliciwch yma i ddarllen canllaw HTW yn llawn.

 

I ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma.