Newyddion

15 Mehefin, 2023

Technoleg Iechyd Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2022/23

Rydym yn falch o gyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol 2022/23, sy’n tynnu sylw at ein cyflawniadau diweddaraf o ran gwella iechyd a gofal cymdeithasol i bobl Cymru.

 

Yn ystod 2022-3, fe wnaethom ystyried mwy na 150 o atgyfeiriadau pwnc newydd, a chyhoeddi 10 dogfen ganllaw newydd HTW, yn ogystal â 71 o Adroddiadau Archwilio Pwnc.

 

Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys dathlu ein pen-blwydd yn bump oed, a chyhoeddi ein hadroddiad archwilio mabwysiadu peilot.

 

Roeddem yn falch hefyd o gyhoeddi ein bod ni wedi cael ein penodi yn un o Bartneriaid Cydweithio Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a fydd yn cynnal ymchwil hanfodol i’r heriau mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

 

Yn 2022/23 cyhoeddwyd ein Hadolygiad Pum Mlynedd, a ddaeth i’r casgliad bod HTW wedi cyflawni twf beiddgar, a’i fod yn rhan werthfawr o’r dirwedd arloesi yng Nghymru.

 

Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd HTW yn parhau i gefnogi cynlluniau uchelgeisiol i ysgogi datblygu a mabwysiadu datrysiadau iechyd a gofal arloesol yng Nghymru, a bydd yn chwarae rhan allweddol yn Strategaeth Arloesi Cymru.

 

Dywedodd yr Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru: “Rwyf wrth fy modd gyda chyflawniadau HTW dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi cael eu crynhoi yn yr Adroddiad Blynyddol hwn.  Mae effaith gwaith HTW yn parhau i dyfu, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’n partneriaid ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad parhaus. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen yr adroddiad blynyddol hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chi ar ein taith i wella iechyd a bywydau pobl Cymru.”

 

Ychwanegodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr HTW: “Rwy’n falch iawn o’r pethau rydym wedi’u cyflawni fel sefydliad yn 2022/23 wrth i ni barhau i ehangu cwmpas ein gwaith, datblygu partneriaethau newydd, ac esblygu i ateb anghenion newidiol y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.”

 

Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd HTW yn parhau i gefnogi cynlluniau uchelgeisiol i ysgogi datblygu a mabwysiadu datrysiadau iechyd a gofal arloesol yng Nghymru, a bydd yn chwarae rhan allweddol yn Strategaeth Arloesi Cymru.

 

Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd yn canolbwyntio ar ddod o hyd i bynciau i’w harfarnu, sy’n mynd i’r afael â’r chwe Blaenoriaeth Weinidogol a gafodd eu cyhoeddi gan Judith Paget CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru.

 

Buasem yn croesawu awgrymiadau ynghylch unrhyw bynciau sy’n mynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn.  Gall unrhyw un awgrymu pwnc i’w arfarnu.

 

Cliciwch yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol Technoleg Iechyd Cymru 2022/23.