Urolon, cyfrwng swmpuso wrethral bioatsugnol

Statws Testun Cyflawn

Urolon, cyfrwng swmpuso wrethral bioatsugnol ar gyfer trin anymataliaeth wrinol straen (SUI) ymhlith oedolion benywaidd.

Crynodeb

 

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd clinigol ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio Urolon, cyfrwng swmpuso wrethral bioatsugnol ar gyfer trin anymataliaeth wrinol straen (SUI) ymhlith oedolion benywaidd.

 

Penderfynodd Grŵp Asesu HTW i beidio â datblygu’r pwnc hwn ymhellach oherwydd diffyg tystiolaeth ar yr effeithiolrwydd ac ar yr effeithiolrwydd o ran cost ar hyn o bryd.