Peiriant darlifo’r ysgyfaint y tu allan i’r corff/ex-vivo

Statws Testun Cyflawn

Peiriant darlifo’r ysgyfaint y tu allan i’r corff/ex-vivo ar gyfer clefyd yr ysgyfaint datblygedig

Crynodeb

 

Cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ganllawiau gweithdrefnau ymyriadol ar y peiriant darlifo ex-situ ar gyfer cadw ysgyfaint y tu allan i’r corff (darlifo’r ysgyfaint y tu allan i’r corff/ex-vivo) ar gyfer trawsblannu (IPG695).

 

Bu ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn chwilio am dystiolaeth ar y peiriant darlifo’r ysgyfaint y tu allan i’r corff/ex-vivo ar gyfer clefyd yr ysgyfaint datblygedig, er mwyn casglu gwybodaeth ynghylch p’un a yw’r pwnc hwn yn addas ar gyfer asesiad HTW llawnach.