Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar prostheteg aml-afael ar gyfer y breichiau
Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ar ddefnyddio dyfeisiau prostheteg myodrydanol aml-afael yn y breichiau ar gyfer pobl sydd â gwahaniaeth yn y breichiau uchaf.
Yn sgil ail-asesu dyfeisiau prostheteg myodrydanol aml-afael, mae canllaw HTW yn dod i’r casgliad nad yw tystiolaeth ar y defnydd o’r dechnoleg ar gyfer pobl sydd â gwahaniaeth yn y breichiau uchaf yn ddigonol i gefnogi eu mabwysiadu fel mater o drefn.
Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn arfarnu technolegau iechyd a gofal cymdeithasol anfeddygol, ac yn cyhoeddi canllawiau cenedlaethol ar eu defnydd yng Nghymru.
Mae canllaw Technoleg Iechyd Cymru yn nodi bod y manteision o ddefnyddio dyfeisiau prostheteg myodrydanol aml-afael yn y breichiau o’u cymharu â mathau eraill o ddyfeisiau prostheteg ar gyfer pobl sydd â gwahaniaeth yn y breichiau uchaf yn ansicr, ac y dylai eu defnydd presennol ddibynnu ar anghenion cleifion unigol.
Mae HTW yn mynd ymlaen i argymell y dylid casglu data ar brofiad a chanlyniadau cleifion i’r rhai sydd â mynediad i’r dechnoleg.
Gallwch ddarllen y canllaw yn llawn yma:https://healthtechnology.wales/reports-guidance/prostheteg-aml-afael-ar-gyfer-y-breichiau/?lang=cy