Dyfeisiau brachytherapi mewnblannu parhaol ar gyfer canser pancreatig na ellir ei lawdrin
Statws Testun Cyflawn
Dyfeisiau brachytherapi mewnblannu parhaol i drin canser pancreatig lleol na ellir cael gwared arno'n llwyr drwy lawdriniaeth
Arbenigeddau: Canser
Canlyniad yr arfarniad
Nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi’r defnydd o ddyfeisiau bracitherapi mewnblaniad parhaol ar gyfer canser y pancreas na ellir ei echdorri yn ychwanegol at driniaeth gonfensiynol.
Nid yw hap-dreialon rheoledig wedi nodi unrhyw welliant mewn canlyniadau clinigol o bwys, megis goroesiad heb waethygu a goroesiad cyffredinol, o gymharu â chemoradiotherapi yn unig.
Mae diffyg buddion clinigol ystadegol arwyddocaol yn atal dadansoddiad cost-effeithiolrwydd o ddyfeisiau bracitherapi mewnblaniad parhaol o’u cymharu â thriniaeth glinigol berthnasol.
Mae triniaeth gyda bracitherapi yn dechnegol heriol, ac mae risg o ddigwyddiadau andwyol. Felly, nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi ei defnyddio ar hyn o bryd.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Canser y pancreas yw’r deuddegfed canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, ond y chweched prif achos marwolaeth o ganlyniad i ganser. Nid yw’r symptomau’n benodol yn y cyfnod cynnar, sy’n golygu ei fod fel arfer yn cael ei ddiagnosio pan fydd wedi datblygu’n lleol neu’n fetastatig. Ar y cam hwn mae’r canser yn aml yn un na ellir ei echdorri, gyda thriniaeth yn canolbwyntio ar arafu effeithiau a lledaeniad y canser.
Math o radiotherapi mewnol yw bracitherapi sy’n golygu gosod deunydd ymbelydrol yn uniongyrchol yn y tiwmor i ddarparu dos o ymbelydredd lleol. Mae gan ychwanegu bracitherapi at driniaeth safonol ar gyfer canser y pancreas na ellir ei echdorri y potensial i wella rheolaeth leol ar y tiwmor, a allai yn ei dro arwain at well goroesiad cyffredinol heb waethygu.
Awgrymwyd y pwnc hwn i HTW gan OncoSil Medical Ltd, cynhyrchydd OncoSil.
Crynodeb mewn iaith glir
Organ yw’r pancreas sydd wedi’i lleoli y tu ôl i ran isaf y stumog. Mae ganddi ddwy swyddogaeth: cynhyrchu ensymau sy’n helpu i dreulio bwyd a gwneud inswlin, sy’n helpu i reoli lefelau siwgr yn y gwaed. Mae canser y pancreas yn fath o ganser sy’n dechrau fel twf celloedd yn y pancreas.
Gall fod yn anodd gweld symptomau canser y pancreas. Gall y rhain gynnwys clefyd melyn, salwch, colli pwysau, diffyg traul a phoen bol. Gall cynlluniau triniaeth ar gyfer canser y pancreas gynnwys llawdriniaeth, cemotherapi a radiotherapi.
Math o therapi ymbelydredd yw bracitherapi lle gosodir ffynhonnell o ymbelydredd wedi’i selio y tu mewn neu wrth ymyl ardal y driniaeth. Mae bracitherapi mewnblaniad parhaol yn defnyddio mewnblaniadau pelydrol a elwir yn belenni neu hadau. Mae’r mewnblaniadau hyn yn fach iawn, tua maint gronyn o reis. Rhoddir yr hadau’n uniongyrchol i mewn i diwmor gyda nodwyddau tenau, gwag. Yna mae’r ymbelydredd yn yr hadau yn trin y canser. Mae’r hadau’n cael eu gadael yn eu lle ar ôl i’r ymbelydredd gael ei ddefnyddio.
Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ynghylch bracitherapi mewnblaniad parhaol ar gyfer canser y pancreas na ellir ei echdorri. Nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi’r defnydd o ddyfeisiau bracitherapi mewnblaniad parhaol ar gyfer canser y pancreas na ellir ei echdorri yn ychwanegol at driniaeth gonfensiynol.
Canllaw
GUI063 01.2025
Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR063 01.2025
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER503 11.2023 (wedi cael ei ddisodli gan EAR063 01.2025)