Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar llawfeddygaeth thorasig gyda chymorth robot.
Mae Technoleg Iechyd wedi cyhoeddi canllaw ar lawdriniaeth thorasig gyda chymorth robot (RATS).
Gellir defnyddio RATS i gael gwared ar ran neu’r cyfan o’r ysgyfaint heintiedig mewn pobl sydd â chanser neu gyflyrau eraill. Yn ystod y driniaeth, mae’r ddyfais robotig yn cael ei rheoli gan lawfeddyg, ac yn cymryd drosodd symudiadau dwylo a bysedd y llawfeddyg ei hun. Cynigiwyd y gall RATS alluogi’r llawdriniaeth i gael ei pherfformio gyda mwy o gywirdeb ar rannau bach o’r ysgyfaint a fyddai fel arall, yn anodd i’r llawfeddyg eu cyrraedd.
Yn ôl canllaw HTW, mae’r dystiolaeth bresennol yn awgrymu bod ansicrwydd ynghylch effeithiolrwydd clinigol tymor byr a hir RATS o’i gymharu â’r safonau gofal presennol – llawdriniaeth thorasig agored neu gyda chymorth fideo.
Mae’r canllaw yn nodi nad yw’r dystiolaeth bresennol yn cefnogi mabwysiadu RATS yn rheolaidd yng Nghymru. Gallwch ddarllen y canllaw yn llawn yma: