Ffotoplethysmograffeg ar gyfer rheoli ffibriliad atrïaidd

Statws Testun Cyflawn

Ffotoplethysmograffeg ar gyfer rheoli ffibriliad atrïaidd

Canlyniad yr arfarniad

 

Mae ffotoplethysmograffeg ffôn clyfar (PPG) yn dangos addewid ar gyfer canfod a monitro ffibriliad atrïaidd (AF) mewn oedolion sydd ag AF neu yr amheuir bod ganddynt AF, ond nid yw’r dystiolaeth yn ddigonol i gefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn.

Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod gan gymwysiadau PPG gywirdeb diagnostig da, a gallai eu defnydd arwain at ostyngiad yn y defnydd o adnoddau yn ogystal â diagnosis cyflymach i rai cleifion.

Cyfyngedig yw’r dystiolaeth i gefnogi effeithiolrwydd tymor hwy ac arbedion o ran defnydd adnoddau yn yr hirdymor ac nid oes digon o dystiolaeth i gefnogi cost-effeithiolrwydd PPG ffôn clyfar.

Mae’r Panel Arfarnu yn annog yn gryf y dylid cynhyrchu ymchwil pellach yn y maes hwn.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Mae dros 1.6 miliwn o bobl wedi cael diagnosis o ffibriliad atrïaidd (AF) yn y DU ac mae mwy na 80,000 o bobl wedi cael diagnosis yng Nghymru. Yng Nghymru, mae ffibriliad atrïaidd yn ffactor sy’n cyfrannu at un o bob pump achos o strôc ac mae tua 15,000 o bobl 65 oed neu hŷn ag AF heb ei ddiagnosio. Mae AF yn cael effaith eang ar wasanaethau iechyd ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd.

Mae gan ddatblygiad dyfeisiau sgrinio a monitro sy’n seiliedig ar ffonau clyfar y potensial i gynyddu cwmpas sgrinio, gwella canfod clinigol, a hwyluso monitro AF heb yr angen am galedwedd allanol ac ychwanegol.

Cynigiwyd y pwnc hwn gan wneuthurwr dyfais (FibriCheck).

Crynodeb mewn iaith glir

 

Mae ffibriliad atrïaidd (AF) yn gyflwr sy’n achosi curiad calon afreolaidd a chyflym. Gall pobl ag AF brofi crychguriadau’r galon, pendro a diffyg anadl. Nid yw’n glir beth sy’n achosi ffibriliad atrïaidd, ond mae’n gyffredin ymhlith pobl sydd â chyflyrau calon eraill megis strôc a methiant y galon. Os yw iechyd y galon yn dirywio, gall arwain at orfod mynd i’r ysbyty.

Mae triniaethau ar gyfer ffibriliad atrïaidd yn cynnwys meddyginiaethau i reoli curiad y galon a theneuo’r gwaed. Fodd bynnag, gall fod yn anodd ei ddiagnosio gan fod angen monitro’r galon am guriadau calon afreolaidd a chyflym. Cynigir datblygu sgrinio sy’n seiliedig ar ffôn clyfar i helpu i wneud y monitro hwn yn haws.

Mae apiau sy’n seiliedig ar ffôn clyfar, megis Ap FibriCheck, yn defnyddio technoleg o’r enw ffotoplethysmograffeg (PPG) i adnabod AF. Mae’r apiau’n defnyddio camerâu ar ffôn clyfar i ganfod newidiadau bach mewn amsugniad golau o flaenau bysedd i fesur curiadau calon. Yn achos ap FibriCheck, mae hyn wedyn yn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wahaniaethu rhwng rhythmau AF a rhythmau calon arferol.

Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar effeithiolrwydd apiau PPG, gan gynnwys FibriCheck, er mwyn rheoli ffibriliad atrïaidd. Mae PPG yn dangos addewid ar gyfer canfod a monitro ffibriliad atrïaidd ymhlith oedolion ag AF neu yr amheuir bod ganddynt AF, ond nid yw’r dystiolaeth yn ddigonol i gefnogi ei fabwysiadu fel mater o drefn.

Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR067 05.2025

Canllaw

GUI067 05.2025

GUI