Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar dyfeisiau brachytherapi mewnblannu parhaol ar gyfer canser pancreatig na ellir ei lawdrin

Rydym wedi cyhoeddi canllaw newydd ar ddefnyddio dyfeisiau bracitherapi mewnblannu parhaol (PIBD) i drin canser y pancreas pan nad yw llawdriniaeth yn opsiwn (canser y pancreas na ellir ei dynnu).
Yn ôl y canllaw, nid yw’r dystiolaeth yn cefnogi defnyddio PIBD i drin canser y pancreas na ellir ei dynnu, yn ychwanegol at driniaeth gonfensiynol.
Mae’n nodi na ddangosodd hap-dreialon rheoli ar ddefnyddio bracitherapi unrhyw welliant i bobl sydd yn byw gyda chanser y pancreas na ellir ei dynnu, o’i gymharu â defnyddio cemotherapi yn unig.
Yn ogystal, yn ôl y canllaw, mae triniaeth gyda bracitherapi yn dechnegol heriol, ac mae perygl y bydd yn arwain at ddigwyddiadau andwyol. I ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma.