Newyddion

06 Mehefin, 2025

HTW yn croesawu Cadeirydd newydd y Panel Asesu

Mae’n bleser gennym gyflwyno Cadeirydd newydd Panel Asesu Technoleg Iechyd Cymru, yr Athro Keith Lloyd.

 

Rôl Panel Asesu HTW ydy ystyried tystiolaeth asesu HTW yng nghyd-destun y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a chynhyrchu canllawiau cenedlaethol HTW yn seiliedig ar y dystiolaeth hon.

 

Mae’r panel yn helpu HTW i ddod o hyd i bynciau i’w harfarnu hefyd, yn gwerthuso’r posibiliad o fabwysiadu canllawiau HTW, ac yn hwyluso ymgysylltu â rhanddeiliaid.

 

Mae Keith yn athro seiciatreg ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn gyfarwyddwr ei Sefydliad Gwyddor Bywyd, ac mae ganddo ddiddordeb hirsefydlog mewn arloesi, lles ac iechyd ym meysydd technoleg feddygol a thechnoleg chwaraeon.

 

Roedd yn Ddirprwy Is-ganghellor dros feddygaeth, iechyd a gwyddor bywyd ym Mhrifysgol Abertawe a chyn hynny, yn bennaeth ysgol feddygol Prifysgol Abertawe.  Cyn ymuno â’r brifysgol, roedd yn bennaeth yr hyn sydd bellach yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae wedi gweithio gyda James Lind Alliance ar safbwyntiau’r cyhoedd a chleifion mewn perthynas â gosod blaenoriaethau ymchwil, a chyda Cochrane.

Mae Keith yn parhau i weithio’n glinigol fel seiciatrydd yn Abertawe.

 

Wrth sôn am ei rôl newydd fel Cadeirydd y Panel, dywedodd yr Athro Lloyd:

“Fel Cadeirydd Panel Asesu HTW, rwy’n edrych ymlaen at helpu i ddatblygu canllawiau cenedlaethol ar dechnolegau iechyd arloesol sydd yn cael  effaith go iawn, ac sy’n gweithio i Gymru”

Susan Myles – Cyfarwyddwr HTW

“Rydym wrth ein bodd yn croesawu’r Athro Lloyd fel Cadeirydd newydd Panel Asesu Technoleg Iechyd Cymru. Mae ganddo brofiad amhrisiadwy mewn lleoliadau clinigol ac academaidd, a dealltwriaeth ragorol o’r dirwedd iechyd a gofal yng Nghymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd yn helpu i lunio gwaith pwysig ein Panel Asesu ac yn ei dro, at weld yr effaith mae’n ei chael ar adnabod, arfarnu a mabwysiadu technolegau iechyd arloesol ar draws Cymru.”