Astudiaeth achos: Arfarnu HTW o Floseal wrth drin epistaxisFloseal i drin epistaxis
Beth wnaethon ni?
Edrychodd HTW ar y dystiolaeth mewn perthynas ag effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd defnyddio matricsau haemostatig llifadwy, wedi’u gwneud o gelatin a thrombin, i reoli gwaedlifau o’r trwyn sydd heb gael eu stopio gyda mesurau cymorth cyntaf.
Gyda phwy?
Awgrymwyd y pwnc hwn gan wneuthurwr Floseal, enghraifft o fatrics gelatin-thrombin, a helpodd ymgynghorwyr ENT drwy adolygu ein hadroddiad.
Beth ddysgon ni?
Mae’n ymddangos bod floseal yn effeithiol mewn rheoli gwaedlifau o’r trwyn am hyd at 14 diwrnod, ac mae’r effeithiolrwydd yn debyg i bacio’r trwyn. Gall peidio â bod angen tynnu Floseal ar ôl y driniaeth gychwynnol fod yn fantais dros bacio’r trwyn, oherwydd gall cael gwared ar hwn arwain at ail-waedu, a’r angen am driniaeth bellach. Roedd yn llai sicr p’un a oedd yr angen i gael eich derbyn i’r ysbyty neu a oedd hyd yr arhosiad ysbyty yn wahanol gyda Floseal o’i gymharu â phacio’r trwyn. Fodd bynnag, ar y cyfan, roedd yn well gan gleifion Floseal ac yn eu barn nhw, roedd yn llai poenus na phacio’r trwyn.
Yn sgil edrych ar astudiaethau economaidd, darganfuwyd bod Floseal yn llai costus ac yn fwy effeithiol o’i gymharu â phacio’r trwyn. Fodd bynnag, nid oedd yr astudiaethau hyn yn uniongyrchol berthnasol i safbwynt GIG Cymru, gyda chyfyngiadau difrifol posibl. Datblygodd HTW fodel economaidd newydd yn defnyddio gwybodaeth gan GIG Cymru. Dros orwel amser o 30 diwrnod, amcangyfrifodd y dadansoddiad achos sylfaenol bod Floseal wedi lleihau 0.295 digwyddiad o ail-waedu, ac wedi cynyddu costau gofal iechyd £80, fesul claf, o’i gymharu â phacio’r trwyn. Amcangyfrifwyd, gydag £20,000 fesul blwyddyn fywyd a addaswyd yn ôl ansawdd (QALY) yn cael ei ystyried yn gost-effeithiol, y byddai angen gweld cynnydd o 0.004 blwyddyn fywyd a addaswyd yn ôl ansawdd o leiaf, i ddod i’r casgliad bod Floseal yn gost-effeithiol. Roedd y dadansoddiad yn cael ei gyfyngu i dystiolaeth effeithiolrwydd oedd heb arwyddocâd ystadegol ac, felly, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli canlyniadau’r dadansoddiad economaidd hwn.
Beth oedd yr ymatebion:
Pa wahaniaeth wnaeth hwn: Cyhoeddodd HTW ganllaw yn argymell mabwysiadu Floseal yn rheolaidd fel opsiwn i drin gwaedlifau trwyn acíwt.