Newyddion

20 Awst, 2025

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar cathetrau mewnwythiennol perifferol hyd hir

Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi cyhoeddi canllaw newydd ar ddefnyddio cathetrau mewnwythiennol hyd hir ar gyfer cleifion sydd â mynediad mewnwythiennol anodd

Mae cathetrau mewnwythiennol hyd hir yn cael eu defnyddio ar gyfer cleifion sydd â mynediad mewnwythiennol anodd i gyflenwi meddyginiaeth, hylifau neu faetholion yn uniongyrchol i lif gwaed person, ac maen nhw’n cynnwys tiwbiau mwy hir na chathetrau mewnwythiennol perifferol byr (SPCs).

Awgrymwyd bod y tiwbiau hirach yn eu gwneud yn haws i’w mewnosod, ac yn eu galluogi i aros yn eu lle am yn hirach.

Yn ôl canllaw HTW, dylai cathetrau mewnwythiennol hyd hir ar gyfer cleifion sydd â mynediad mewnwythiennol anodd fod ar gael yn rheolaidd fel dewis arall yn lle cathetrau mewnwythiennol perifferol byr (SPCs) ar gyfer pobl sydd â mynediad mewnwythiennol anodd, y disgwylir iddynt fod angen mynediad mewnwythiennol am rhwng pedwar a 14 diwrnod.   Fodd bynnag, er bod cathetrau mewnwythiennol hyd hir yn dangos addewid mewn senarios eraill, nid yw’r dystiolaeth sydd ar gael yn ddigonol i gefnogi eu defnyddio fel mater o drefn.

I ddarllen y cyfarwyddyd yn llawn cliciwch yma