Newyddion

11 Chwefror, 2026

Mae Technoleg Iechyd Cymru yn cyflwyno set newydd o argymhellion ar ganllawiau

 

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi set newydd o argymhellion ar gyfer ein canllawiau ar dechnolegau iechyd.

 

Mae argymhellion y canllawiau newydd fel a ganlyn:

 

  • Dylid cynnig fel mater o drefn
  • Ni ddylid cynnig fel mater o drefn
  • Mae angen mwy o dystiolaeth.

 

Rydym wedi safoni geiriad ein hargymhellion, ac wedi diweddaru ein dogfennau canllaw i wneud canllawiau HTW yn gliriach ac yn fwy cyson. Byddwch yn dechrau gweld y newidiadau hyn mewn canllawiau sydd yn cael eu cyhoeddi o fis Chwefror 2026 ymlaen.

 

Mae gwybodaeth lawn am yr argymhellion newydd hyn yn cael eu darparu yn y ddogfen Trosolwg o Argymhellion, y gellir ei darllen yma.

 

Mae argymhellion HTW ar dechnolegau iechyd yn berthnasol i bob bwrdd iechyd lleol, Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, pan fyddant yn gyfrifol am ddarparu/trefnu gofal i’r boblogaeth a grybwyllir yn y canllawiau.

 

Statws argymhellion HTW yw ‘mabwysiadu neu gyfiawnhau’. Mae hyn yn golygu bod disgwyl i sefydliadau ddilyn yr argymhelliad neu roi cyfiawnhad pam eu bod wedi dewis peidio â’i ddilyn. Nid yw argymhellion ar sut i weithredu ac ariannu’r dechnoleg o fewn cylch gwaith HTW.