Newyddion

12 Mai, 2026

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar uwchsain â chymorth deallusrwydd artiffisial ar gyfer canfod a diagnosio thrombosis gwythiennau dwfn (DVT).

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ar ddefnyddio uwchsain â chymorth deallusrwydd artiffisial ar gyfer canfod a diagnosio thrombosis gwythiennau dwfn (DVT).

 

Clot gwaed mewn gwythïen yw DVT, fel arfer yn y goes. Os bydd rhan o’r clot gwaed yn torri i ffwrdd ac yn teithio i’r ysgyfaint, mae’n gallu bod yn beryglus dros ben.
Ar hyn o bryd, mae’n cael ei ddiagnosio gan arbenigwr fel sonograffydd neu radiolegydd gan ddefnyddio sgan uwchsain.

 

Mae pobl sydd ddim yn arbenigwyr yn gallu defnyddio’r feddalwedd ThinkSono Guidance i ddiagnosio DVT gan ddefnyddio cymhwysiad ffôn clyfar AI a dyfais uwchsain llaw.

 

Cynigiwyd y gall y dechnoleg ddiagnosio DVT yn fwy cyflym.

 

Yn ôl canllaw HTW fodd bynnag, mae angen mwy o dystiolaeth ar ddefnyddio’r feddalwedd ThinkSono Guidance i ganfod a diagnosio DVT.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ac i ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma.