Newyddion

12 Mai, 2026

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar ddefnyddio bracitherapi dos uchel achub (HDR-BT)

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ar ddefnyddio bracitherapi dos uchel achub (HDR-BT) i drin canser cyfyngedig y prostad sydd wedi dod yn ôl ar ôl cael radiotherapi yn flaenorol i drin yr un ardal.

 

Ar hyn o bryd yng Nghymru, y brif driniaeth ar gyfer canser y prostad sydd yn dychwelyd i’r un ardal ar ôl cael triniaeth flaenorol yw prostatectomi radical – sef llawdriniaeth i gael gwared ar y prostad cyfan a rhywfaint o’r meinwe o’i gwmpas.
Gall y driniaeth hon achosi sgîl-effeithiau fel anymataliaeth wrinol a heintiau.

 

Edrychodd HTW ar y dystiolaeth y gellir defnyddio HDR-BT i drin pobl â chanser y prostad sydd wedi dychwelyd, yn lle prostatectomi.

 

Mae HDR-BT yn fath o radiotherapi mewnol sy’n defnyddio tiwbiau tenau sy’n cael eu gosod dros dro y tu mewn i’r prostad i ddarparu ymbelydredd yn uniongyrchol i’r tiwmor. Mae hyn yn targedu’r celloedd canser ac yn lleihau difrod i’r meinwe iach o’i gwmpas.

 

Yn ôl canllaw HTW, mae angen mwy o dystiolaeth ar ddefnyddio HDR-BT i drin canser y prostad sydd wedi dychwelyd i’r un ardal, neu’n agos i’r ardal, o’i gymharu â phrostatectomi radical achub neu radiotherapi abladol stereotactig y corff (SABR) achub.

 

Nid oedd HTW yn gallu asesu effeithiolrwydd o ran cost y dechnoleg, gan nad oedd digon o dystiolaeth i wneud gwerthusiad iawn.

 

I ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma.