Bracitherapi cyfradd dos uchel achub (HDR-BT)
Statws Testun Cyflawn
Bracitherapi cyfradd dos uchel achub (HDR-BT) ar gyfer atglafychu lleol mewn canser y prostad ar ôl cael radiotherapi â nod iachaol blaenorol.
Canlyniad yr arfarniad
Mae angen rhagor o dystiolaeth ar frachitherapi cyfradd dos uchel llinell olaf ar gyfer atglafychiad lleol neu ddatblygedig yn lleol o ganser y prostad ar ôl radiotherapi bwriadol iachaol blaenorol.
Roedd tystiolaeth gyfyngedig o effeithiolrwydd clinigol ar gyfer brachitherapi cyfradd dos uchel (HDR-BT) llinell olaf ar gyfer atglafychu lleol neu ddatblygedig yn lleol o ganser y prostad o’i gymharu â phrostadectomi radical llinell olaf neu radiotherapi corff abladol stereotactig (SABR) llinell olaf.
Nid oedd HTW yn gallu pennu cost-effeithiolrwydd oherwydd nad oedd y dystiolaeth effeithiolrwydd yn ddigonol i’w defnyddio ar gyfer arfarniad cadarn.
Ar hyn o bryd, mae mynediad at HDR-BT llinell olaf trwy’r broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR). Roedd y Panel Arfarnu yn gefnogol i’r llwybr hwn ar gyfer mynediad at driniaeth a dywedodd y dylid casglu data canlyniadau a adroddwyd gan gleifion a chanlyniadau goroesi gan bobl sydd wedi derbyn HDR-BT llinell olaf.
Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?
Clot gwaed mewn gwythïen yw thrombosis gwythiennau dwfn (DVT) a bydd fel arfer yn digwydd yn y goes. Os bydd rhan o’r clot gwaed yn torri i ffwrdd ac yn teithio i’r ysgyfaint, gall fod yn hynod beryglus. Ar hyn o bryd, gwneir y gwaith o ganfod a diagnosio DVT gan arbenigwyr, megis sonograffydd neu radiolegydd, mewn ysbyty ac mae’n cynnwys sgan uwchsain deuol. Fodd bynnag, yn y llwybr gofal presennol mae oedi mewn profion uwchsain, a allai arwain at fwy o ddefnydd o feddyginiaeth gwrthgeulo dros dro.
Cynigiwyd y gall uwchsain â chymorth deallusrwydd artiffisial (AI) gefnogi diagnosis mwy effeithlon o DVT. Mae system ThinkSono Guidance (AutoDVT gydag adolygiad gan glinigydd) yn defnyddio cymhwysiad ffôn clyfar AI a dyfais uwchsain llaw ar y pwynt gofal. Gellir ei wneud gan bobl nad ydynt yn arbenigwyr a gallai, mewn egwyddor, alluogi diagnosis cyflymach pan gaiff ei ychwanegu at y llwybr gofal presennol. Gwneir defnydd arfaethedig o ThinkSono Guidance fel offeryn diystyru DVT agos, trwy flaenoriaethu’r achosion positif ac amhenodol fel rhai risg uchel i gael sgan uwchsain dilynol o fewn pedair awr yn unol ag argymhellion y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).
Cyflwynwyd y pwnc hwn gan wneuthurwr system ThinkSono Guidance, trwy Wasanaeth Arloesi’r GIG.
Crynodeb mewn iaith glir
Beth yw Canser y Prostad?
Mae canser y prostad yn digwydd pan fydd celloedd yn y prostad yn tyfu allan o reolaeth ac yn ffurfio tiwmor. Gall canser y prostad achosi:
- anhawster i basio dŵr,
- angen mynd ar frys neu’n aml,
- deffro yn y nos i basio dŵr
- teimlo fel pe na bai’r bledren wedi gwagio’n llwyr.
Un driniaeth bosibl yw radiotherapi. Ar ôl triniaeth, os yw canser yn dychwelyd i’r un ardal, gelwir hyn yn “atglafychiad lleol” neu’n “fethiant lleol”. Pan fydd hyn yn digwydd, mae angen triniaeth bellach.
Beth yw brachitherapi llinell olaf?
Math o radiotherapi mewnol yw brachitherapi dos uchel (HDR-BT) llinell olaf. Mae tiwbiau tenau yn cael eu gosod dros dro y tu mewn i’r prostad i helpu i roi ymbelydredd yn uniongyrchol i’r tiwmor. Mae hyn yn targedu’r celloedd canser tra’n lleihau’r difrod i’r meinwe iach o’u cwmpas.
Yng Nghymru, y prif driniaeth pan fydd canser y prostad yn dychwelyd yw prostadectomi radical. Dyma lawdriniaeth i gael gwared ar y chwarren brostad gyfan a rhywfaint o’r meinwe o’i chwmpas. Er ei bod yn effeithiol, gall y llawdriniaeth hon achosi sgil-effeithiau megis problemau gyda chodiadau (swyddogaeth rywiol), anymataliaeth wrinol (gollwng), a heintiau.
Ar beth edrychodd Technoleg Iechyd Cymru?
Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru ar y dystiolaeth y gellir defnyddio brachitherapi cyfradd dos uchel llinell olaf ar gyfer pobl â chanser y prostad sydd wedi atglafychu yn lle prostadectomi. Mae angen mwy o dystiolaeth cyn y gellir gwneud argymhelliad.
Canllaw
GUI074 02.2026
Adroddiad Gwerthuso Tystiolaeth
EAR074 02.2026
Adroddiad Archwilio Pwnc
TER596 05.2025 (superseded by EAR074 02.2026)