Newyddion

22 Gorffennaf, 2026

Canllawiau wedi’u cyhoeddi ar y larymau ffitiau epileptig

 

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw cenedlaethol newydd ar ddefnyddio technolegau larwm epilepsi y gellir eu gwisgo neu sydd wedi eu hatodi i’r gwely i ganfod ffitiau tonig-clonig mewn pobl sydd ag epilepsi.

 

Mae ffitiau tonig-clonig fel arfer yn dechrau gyda cholli ymwybyddiaeth a dioddef o gyhyrau stiff ar draws y corff ac yna, symudiadau ysgytiol rhythmig yn y coesau a’r breichiau.  Mae ffitiau tonig-clonig yn peri risgiau sylweddol, gan gynnwys anafiadau difrifol, a’r rhain ydy’r prif ffactor risg ar gyfer marwolaethau annisgwyl sydyn mewn achosion o epilepsi, yn enwedig ymhlith cleifion sydd heb oruchwyliaeth yn ystod y nos.

 

Gellir defnyddio larymau epilepsi i ganfod pryd mae rhywun yn cael ffit. Gall hyn helpu i leihau’r risg o anaf neu farwolaeth sy’n deillio o ffit.

 

Mae’r larwm yn monitro arwyddion ffisiolegol, fel symudiad a chyfradd curiad y galon, i ganfod gweithgarwch anarferol a allai ddangos bod ffit yn digwydd.   Gellir gwisgo’r larymau neu eu hatodi i wely neu fatres.

 

Unwaith y caiff ffit ei ganfod, mae’r monitor yn sbarduno larwm i ofalwyr neu aelodau o’r teulu.

 

Ar hyn o bryd, nid oes dull a dderbynnir yn gyffredinol ar gael ar gyfer canfod ffitiau y tu allan i’r ysbyty, ac nid oes unrhyw system larwm penodol ar gyfer epilepsi yn cael ei argymell gan y GIG yng Nghymru.

 

Yn ôl canllaw HTW fodd bynnag, mae angen mwy o dystiolaeth ar y dechnoleg.

Mae’r canllaw’n nodi mai prin yw’r dystiolaeth sy’n cefnogi effeithiolrwydd clinigol technolegau larwm epilepsi y gellir eu gwisgo neu sydd wedi eu hatodi i’r gwely i ganfod ffitiau tonig-clonig mewn pobl sydd ag epilepsi.

 

Nid oedd HTW ychwaith yn gallu asesu cost-effeithiolrwydd y dechnoleg yng Nghymru oherwydd diffyg tystiolaeth ddigonol.

 

I ddarllen y canllaw yn llawn, cliciwch yma.