Llwyfannau cyfathrebu digidol

Statws Testun Cyflawn

Llwyfannau cyfathrebu digidol i gyflwyno therapi lleferydd ac iaith i blant ag anhwylderau sain lleferydd.

Arbenigeddau:  Darparu a threfnu gwasanaethau iechyd; Pediatreg

Crynodeb

 

Ar ran Technoleg Iechyd Cymru, chwiliodd Cedar am dystiolaeth ar y defnydd o lwyfannau cyfathrebu digidol (fel Skype) i ddarparu therapi lleferydd ac iaith i blant. Doedd dim llawer o dystiolaeth ar y pwnc hwn, a daeth grŵp asesu HTW i’r casgliad na ddylid bwrw ymlaen â’r pwnc hwn ymhellach.