Technoleg Iechyd Cymru yn ymuno â grwpiau allweddol Llywodraeth Cymru sy’n ymateb i COVID-19

Rydym wedi ymuno â chonsortiwm o randdeiliaid o dan arweiniad Llywodraeth Cymru i gyflenwi cynllun cenedlaethol ar gyfer profi am glefyd coronafeirws (COVID-19).
Mae’r consortiwm hwn yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd, Partneriaeth Cydwasanaethau, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, Hwb Gwyddorau Bywyd, Partneriaeth Genomeg Cymru a phartneriaid academaidd.
Mae profi yn rhan hollbwysig o sut yr ydym yn gweithio i ddiogelu’r cyhoedd, cael y canlyniadau gorau posibl ar gyfer ein cleifion a chadw gwasanaethau hanfodol i redeg yng Nghymru. Mae dau brif amcan i’r cynllun cenedlaethol ar gyfer profi am COVID-19:
- lleihau’r niwed a achosir gan COVID-19
- cynorthwyo’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i ddychwelyd i’w bywydau arferol pob dydd
Mae dull cenedlaethol Cymru o brofi am COVID-19 yn gweithio ochr yn ochr â Strategaeth Profi y DU.
Rydym wedi gofyn i’r grŵp profi nodi pynciau technoleg cysylltiedig â COVID-19 sy’n flaenoriaeth ac sydd angen eu cyflawni’n gyflym. Rydym yn cynhyrchu Adroddiadau Archwilio Pwnc (TERs) ar gyfer y technolegau hyn. Defnyddir TERs i ddeall y dystiolaeth sy’n sail i dechnoleg a galluogi penderfyniadau i gael i’w gwneud yn seiliedig ar dystiolaeth.
Mae llawer o TERs cysylltiedig â COVID-19 eisoes wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan, yn cynnwys:
- Cymwysiadau ffonau clyfar pwynt gofal (ResAppDx-UE) ar gyfer diagnosio clefyd anadlol acíwt
- Cytokine adsorbers i drin storm cytokine mewn pobl sydd â haint coronafeirws difrifol
Rydym hefyd yn rhan o Gell Ymchwil COVID-19 Llywodraeth Cymru sy’n rhannu gwybodaeth ac yn cydlynu cysylltiadau i brosesau DU gyfan ar gyfer ymchwil. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar gyfuno’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ar gyfer diagnosteg a therapiwteg COVID-19, yn cynnwys crynodeb o’r dystiolaeth am COVID-19 a ddiweddarir yn rheolaidd.
Ewch i www.healthtechnology.wales/covid-19 i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau ymchwil rydym yn eu darparu ar gyfer ein partneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.