Triniaethau gwrthficrobaidd ar gyfer masgiau meddygol neu gyfarpar diogelu personol

Statws Testun Anghyflawn

Triniaethau gwrthficrobaidd ar gyfer masgiau meddygol neu gyfarpar diogelu personol i leihau trosglwyddo clefydau anadlol

Arbenigeddau:  Covid-19; System resbiradol

Crynodeb

 

Chwiliodd ymchwilwyr Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar effeithiolrwydd cyfarpar diogelu personol neu fasgiau meddygol gydag elfennau gwrthficrobaidd (fel cotiadau ac ychwanegion gwrthfeirysol), o’i gymharu â chynnyrch safonol fel dull o reoli heintiau. Canolbwyntiwyd ar dystiolaeth yn ymwneud â COVID-19, ond chwiliwyd hefyd am dystiolaeth ar reoli heintiau yn defnyddio’r math hwn o gynnyrch yng nghyd-destun clefydau anadlol eraill.